System Les i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:10, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn cydgynhyrchu siarter gyda rhanddeiliaid a fydd yn sail i ddarparu system fudd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ffocws uniongyrchol ar sicrhau bod ein taliadau cymorth ariannol presennol a newydd yn cyrraedd aelwydydd ledled Cymru y mae eu hincwm dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen.