Yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:20, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fel y gwyddom, mae'r argyfwng eisoes gyda ni, ond yn anffodus, mae'n debygol o waethygu'n sylweddol o ran costau bwyd, tanwydd, ynni a llawer o bethau eraill. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau penodol i roi cynlluniau ar waith i helpu, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o bethau, a'r system fudd-daliadau, er enghraifft. Yn anffodus, Weinidog, mae llawer o'r budd-daliadau hynny heb eu hawlio yng Nghymru o hyd ac mae gennym lu o sefydliadau, megis Cyngor ar Bopeth, cymdeithasau tai, elusennau amrywiol ac awdurdodau lleol yn darparu cymorth a chefnogaeth fel bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac yn ei hawlio. Ond yn anffodus, nid yw hynny i'w weld yn ddigon. Weinidog, tybed a allai Llywodraeth Cymru edrych o'r newydd ar y ffynonellau gwybodaeth a chyngor sydd ar gael, a gweld a oes unrhyw fylchau?

Cofiaf yn iawn pan oedd gan bob awdurdod lleol gynghorwyr budd-daliadau lles ac yn amlwg, nid yw hynny'n wir heddiw ar ôl y blynyddoedd o gyni. Felly, tybed—