Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Mawrth 2022.
Gallaf sicrhau'r Aelod o hynny. Rydym yn galw—y Cwnsler Cyffredinol a minnau; fe welwch yn ein datganiad ysgrifenedig—rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i newid cyfeiriad. Mae'n dal yn bosibl gwneud hynny, ac mae argyfwng Wcráin yn dangos ei bod hyd yn oed yn bwysicach eu bod yn gwneud hynny. Dylent roi'r gorau i'r cynigion presennol, dylent ailymrwymo, nid yn unig i gadw'r Ddeddf Hawliau Dynol bresennol, ond i warantu cydymffurfiaeth lawn y DU â'r rhwymedigaethau y mae wedi ymrwymo i'w cyflawni yn rhan o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ac fel aelod o Gyngor Ewrop, a bwriadwn gael dadl ar hyn cyn gynted ag y gallwn, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau'n ymuno â ni i gefnogi'r bwriad hwnnw o ran ein safbwyntiau.