Cefnogi Myfyrwyr Anabl mewn Addysg Uwch

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:19, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Carolyn Thomas. Cymru sy'n darparu'r lefel fwyaf hael yn y DU o gymorth grant lwfans i fyfyrwyr anabl nad yw'n ad-daladwy, ond rydych wedi tynnu sylw at broblem a wynebodd eich etholwr o ganlyniad i'ch ymgynghoriad. Rydym yn cadw golwg ar y rheoliadau hyn, ac rydym hefyd mewn cysylltiad â holl gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol y colegau addysg bellach, er mwyn iddynt allu bod yn ymwybodol o'r materion sy'n codi.