Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch. Gallaf eich sicrhau'n llwyr, Delyth Jewell, fod hyn yn hollbwysig wrth inni gyflawni ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o hyn, mae'n peri pryder mawr, ond hoffwn dynnu eich sylw hefyd at y rhaglen Taith gwerth £65 miliwn, sy'n agored i geisiadau yn awr, i gynorthwyo myfyrwyr a staff o bob sector addysg yng Nghymru i astudio a dysgu ledled y byd, ac sydd hefyd yn cydnabod bod gennym hanes balch o groesawu gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o bob cwr o'r byd. Fe welwch hyn yn ein cynllun ar ffurf camau gweithredu a chyflawni wrth inni fwrw ymlaen i gyhoeddi'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol terfynol ar gyfer Cymru wrth-hiliol.