Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 16 Mawrth 2022.
Wel, wrth gwrs, mae honno'n broblem sydd eisoes wedi codi, oherwydd cawsom etholiadau'r Senedd ar yr un pryd ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs roedd etholfreintiau gwahanol ar gyfer pob un o'r etholiadau hynny mewn gwirionedd.
Rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn fod yna lefel o ymrannu. Credaf y bydd yr ymraniad hwnnw'n cynyddu, a chredaf fod angen mwy o bwyslais ar eglurder yr etholiadau hynny a lle mae'r gwahaniaethau hynny'n berthnasol mewn perthynas ag etholiadau penodol. Roeddem wedi cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU wrth gwrs fod eu cynigion mewn perthynas â dulliau adnabod pleidleiswyr nid yn unig yn debygol o greu rhwystrau i bobl rhag pleidleisio, ond eu bod yn creu ymrannu diangen hefyd. Mae'n amlwg fod Llywodraeth y DU wedi dewis bwrw ymlaen â'r rheini. Rydym yn anghytuno â hwy am yr holl resymau a drafodwyd gennym mewn dadleuon yn ddiweddar.