Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, rydych yn ymwybodol iawn o fy mhryderon i a nifer yn y Siambr hon—ym Mhlaid Cymru a'r Blaid Lafur—ynghylch effaith y cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y setliad datganoli a'u defnydd cynyddol yn y Senedd hon. Mae'r llythyr heddiw gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau yn dangos natur anhrefnus proses y cynigion cydsyniad deddfwriaethol; nid yw'n gweithio o gwbl. Dywedodd y Gweinidog addysg yn y Siambr ei fod yn ceisio gwelliant i'r Bil Cymwysterau Proffesiynol, er mwyn sicrhau na allai Gweinidogion y DU ddiwygio'r Ddeddf ddatganoli bwysig, Deddf Llywodraeth Cymru 2006—cam synhwyrol iawn, byddech yn meddwl. Ond i'r gwrthwyneb, mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud na fyddai'n ceisio gwelliant o'r fath. Disgrifiodd bŵer Gweinidogion y DU i wneud gwelliannau i'r Bil pwysig hwnnw fel risg gyfansoddiadol fach. Roedd hi'n fodlon ag addewid a wnaed ar lawr Senedd y DU gan un o Weinidogion y DU, rhywbeth nad yw'n rhwymo'r Llywodraeth hon hyd yn oed, heb sôn am unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol. Felly, pa un yw hi am fod, Gwnsler Cyffredinol? Pa un o'r dulliau sy'n gwrthdaro, dull y Gweinidog addysg, neu ddull y Gweinidog iechyd, yw'r egwyddor y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn awr mewn perthynas â chynigion cydsyniad deddfwriaethol? Diolch yn fawr.