Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 16 Mawrth 2022.
Wel, a gaf fi ddiolch ichi am y cwestiwn atodol hynod bwysig hwnnw? Oherwydd mae'r mater rydych wedi tynnu sylw ato, fel gwnaethoch gyda mater Hillsborough, yn un o anghyfiawnderau mawr yr unfed ganrif ar hugain: yr anghyfiawnder fod miloedd o bobl wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg cyfrifiadurol yn system gyfrifiadurol Horizon, sydd wedi dinistrio neu ddifetha bywydau nifer fawr o bobl, pobl a gafodd eu carcharu, pobl y mae eu teuluoedd wedi chwalu, eu priodasau wedi chwalu. Mae 72 o apeliadau wedi'u gwrthdroi hyd yn hyn; mae mwy i ddod. Ac yn aml anghofiwn fod honiadau wedi'u gwneud yn erbyn oddeutu 2,500 o bobl mewn gwirionedd, a'u bod wedi ad-dalu arian i Swyddfa'r Post nad oedd angen o gwbl iddynt fod wedi'i ad-dalu, am nad oeddent yn euog o unrhyw beth, ond fe wnaethant hynny er mwyn osgoi erlyniad. Felly, mae effaith hyn wedi bod yn enfawr.
Rwy'n falch iawn mai Syr Wyn Williams yw cadeirydd yr ymchwiliad. Mae'n amlwg y bydd angen iddo gwblhau ei waith, ond mae'n rhaid inni sicrhau dau beth: yn gyntaf, fod yn rhaid gwneud popeth y gellir ei wneud i sicrhau cyfiawnder i'r bobl yr effeithiwyd arnynt; ond yn ail, un o'r pethau nad yw'n deillio o ymchwiliadau yn aml yw ein bod eisiau gwybod sut y digwyddodd, pam y digwyddodd, sut y gellir ei osgoi yn y dyfodol, ac a oes unigolion o fewn strwythur Swyddfa'r Post y dylid eu dwyn i gyfrif, oherwydd yn sicr mae rhywfaint o'r dystiolaeth yn yr ymchwiliad hyd yma'n dangos, pan ddaeth Swyddfa'r Post Cyf yn ymwybodol o'r mater, fod ymgais wedi bod i'w ysgubo i'r naill ochr. Nawr, nid wyf yn dweud hynny er mwyn rhagfarnu canlyniad yr ymchwiliad a diau y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yno, ond mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid cael atebolrwydd yn ogystal ag iawndal. Rwy'n croesawu'r ymdrechion rydych wedi'u gwneud, ac yn sicr, byddaf fi, a Llywodraeth Cymru hefyd, rwy'n gwybod, yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r dinasyddion o Gymru yr effeithiwyd arnynt yn y modd hwnnw.