Cymorth Iechyd Meddwl

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:04, 16 Mawrth 2022

Mae nifer fawr iawn o bobl sy'n gweithio yn y Comisiwn yn gweithio yn galed iawn i helpu pobl sydd angen cymorth fel hyn. Gwaetha'r modd, fel dŷch chi wedi dweud, mae'r pandemig wedi gwaethygu problemau iechyd meddwl i lawer o bobl, wedi achosi argyfwng i rai. Mae'r rhaglen cymorth i weithwyr wedi bod yn help enfawr i nifer, ond dydy'r gwasanaeth yma ddim wastad yn ddigon bob tro. Mae rhai yn ffonio'r gwasanaeth unwaith ond ddim yn dilyn i fyny, mae eraill sydd ddim yn ffonio o gwbl oherwydd eu bod nhw'n bryderus ynglŷn â siarad am bethau anodd dros y ffôn. Hoffwn i wybod, plis, os byddai modd i'r Comisiwn ystyried darparu gwasanaeth cwnsela mewnol i gyd-fynd â'r rhaglen EAP fel bod staff sydd angen cymorth arbenigol ar gyfer argyfwng iechyd meddwl, straen, gorflinder, hyd yn oed bwlio, yn gallu troi at rywun am gefnogaeth arbenigol sydd ar gael yn syth. A fyddai hyn yn rhywbeth y byddai modd i'r Comisiwn ei ystyried, os gwelwch yn dda, nid yn unig ar gyfer staff Aelodau, ond pawb sy'n gweithio yn ein Senedd?