Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Mawrth 2022.
Gallwch fod yn gwbl sicr y byddaf yn ymrwymo i gyfarfod ag RNIB Cymru a gwrando ar y pethau sy'n peri pryder ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iddynt. Mae'r Senedd, a hefyd Aelodau'r Senedd fel chi, yn awyddus iawn i bawb, beth bynnag fo'u gallu neu eu hanabledd, allu defnyddio'r holl wasanaethau mewn ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus â hi. Felly, rwy'n sicr yn fwy na pharod i wneud hynny, ac os ydych chi eisiau, mae croeso i chi ddod i'r cyfarfod hwnnw hefyd.