Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn. Sefydlwyd cwrs sylfaen celf Coleg Menai yn 1981, ond dim ond eleni mae’r dathliadau 40 mlynedd yn cael eu cynnal, oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus y llynedd. Dyna ysgogodd arweinydd y cwrs, Owein Prendergast, i alw’r arddangosfa yn '40+1'. Sefydlwyd y cwrs ym Mangor gan yr arlunydd Peter Prendergast, tad Owein, a chyfoedion iddo. Mae gweithiau celf arbennig i ddathlu’r pen-blwydd yn cael eu harddangos yn oriel gelf Storiel a chanolfan Pontio ar hyn o bryd. Aeth Owein ati i guradu darnau o gelf, un ar gyfer pob blwyddyn y pen-blwydd, gwaith gan gyn-fyfyrwyr, darlithwyr, a sylfaenwyr y cwrs, ac mae’r gwaith yn tystio i gyfraniad aruthrol y cwrs dros y degawdau. Mae rhai o enwau amlycaf y sin gelfyddydol yng Nghymru wedi bwrw eu prentisiaeth yna, ond dwi ddim am ddechrau eu henwi nhw rhag i mi anghofio rhywun a phechu. Ond mae pob un yn talu teyrnged i gyfnod creadigol, arbrofol, ffurfiannol oedd yn rhoi cyfle iddyn nhw flodeuo fel unigolion yn ogystal ag fel artistiaid. Felly, pen-blwydd hapus, cwrs celf Coleg Menai, a llongyfarchiadau mawr ar gyrraedd carreg filltir bwysig. Hir y parhaed y cwrs i gyfrannu’n helaeth i gelfyddyd gweledol ein cenedl. Diolch.