Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch, Janet, am gyflwyno’r ddadl hon. Fel Aelod sy’n cynrychioli darn sylweddol o’n harfordir, hoffwn atgoffa pobl fod moroedd Cymru yn fwy na thraean yn fwy o faint na thirfas Cymru. Felly, mae cynllunio morol yn allweddol i lawer o bolisïau a blaenoriaethau, o newid hinsawdd i fioamrywiaeth, o ddatblygu economaidd i ddiogelu ffynonellau ynni. Fel aelod o bwyllgor y Senedd a gyflwynodd adroddiad yn ddiweddar ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, rwyf wedi edrych ar sut y mae’r galwadau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn gorgyffwrdd yn cael eu rheoli a’u cydbwyso.
Ers inni adrodd fis diwethaf, mae'r sefyllfa wedi newid yn sylweddol. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi diogelwch ffynonellau ynni a lleihau mewnforion tanwydd ffosil ar frig yr agenda. Wrth gwrs, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon 95 y cant erbyn 2050. Mae’r sancsiynau yn erbyn Rwsia yn amlygu pam fod hynny’n fater o ddiogelwch gwladol yn ogystal â diogelwch hinsawdd. Byddwn yn clywed llawer mwy am gynhyrchu trydan o ffermydd gwynt ar y môr, ynni'r tonnau a cheryntau llanw dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae Cymru, wrth gwrs, mewn sefyllfa wych—yn llythrennol, yn ddaearyddol—i gynhyrchu’r mathau cynaliadwy hyn o ynni. Yng ngorllewin Cymru, mae gennym ardal arddangos sir Benfro a Wave Hub. Fel yr ardaloedd cynhyrchu ynni eraill, mae’n cael hawl i ddefnyddio gwely’r môr ar brydles gan Ystad y Goron, fel y mae Janet newydd ei grybwyll. Ac os gall datganoli’r ystad ein helpu i gyflawni ein dyhead i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, mae'n rhaid inni fynd ar drywydd hynny, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid inni sicrhau hefyd fod gennym gynllun cadarn i leoli a datblygu’r technolegau hyn mewn modd sensitif a phriodol er mwyn lliniaru a lleihau’r effeithiau ar ecosystemau morol a storfeydd carbon glas. Rwy'n cytuno gyda Janet ynglŷn â hynny.
Rwy'n sôn am garbon glas oherwydd, yn ogystal â’r ardaloedd sensitif o safbwynt ecolegol a’r cynefinoedd a'r rhywogaethau dan fygythiad y mae’r cynnig yn eu rhestru, rhaid inni hefyd ystyried cynefinoedd a storfeydd carbon glas, ac atafaelu ac adfer carbon. Mae o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon wedi'i storio yng nghynefinoedd morol Cymru, gwerth bron i 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Felly, maent yn allweddol i gyflawni ein nodau newid hinsawdd. Mae CNC i fod i gyhoeddi adroddiad cyn bo hir yn dogfennu’r potensial atafaelu carbon ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig presennol, ac edrychaf ymlaen at ei ddarllen.
Mae gan Lafur Cymru ymrwymiad maniffesto i adfer cynefinoedd arfordirol. Gallem ymestyn hynny i gynnwys cynefinoedd carbon glas a chynefinoedd o bwys ecolegol yn ardal forol Cymru. Wrth symud ymlaen, dylai achub ar bob cyfle i warchod, adfer a gwella cynefinoedd carbon glas, fel dolydd morwellt, fod yn nod trosfwaol.