6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) — Cynllunio morol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:17, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae absenoldeb hanesyddol cynllunio gofodol morol a dull ynysig o reoli ein moroedd yn golygu ein bod bellach yn wynebu sgrialfa anhrefnus am ofod ac oedi cynyddol i ddiwydiant. Gan fod angen inni ymbellhau ar frys oddi wrth hydrocarbonau Rwsiaidd yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Putin, mae'n rhaid inni gael y ddeddfwriaeth orau bosibl, sy'n hyrwyddo prosiectau ynni morol a chynyddu diogelwch ffynonellau ynni gan sicrhau ar yr un pryd fod yr argyfwng natur a hinsawdd yn parhau i fod yn rhan ganolog ohoni. Byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny.

Felly, pam y dylai’r Senedd hon, Senedd Cymru, ddeddfu ar gynllunio morol? Wel, amlygodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y gyllideb ddrafft ein canfyddiad fod yna bryder ynghylch rhwystrau rhag cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan gynnwys prinder tystiolaeth amgylcheddol forol, a chymhlethdod sy’n peri oedi yn y broses gydsynio a thrwyddedu. Mae pryderon eang ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol, gan gynnwys monitro ac asesu cyflwr safleoedd morol i gefnogi cynllunio morol, ac er bod adolygiad i symleiddio’r broses gydsynio i’w groesawu, ni cheir sylfaen dystiolaeth gadarn o hyd i danategu penderfyniadau datblygu, ac o ganlyniad, ceir risgiau cynhenid wrth gynyddu gwaith datblygu. Yn sicr, nid dyma rydym am ei glywed ar adeg pan fo Llywodraeth y DU, a hynny’n gwbl briodol, wedi gosod targed uchelgeisiol i gynhyrchu 40 GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Mae oddeutu 4 GW o ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr ychwanegol ar y ffordd yng ngogledd Cymru, ac mae Ystad y Goron yn mynd ar drywydd cynlluniau gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi methu'r terfyn amser i gyflawni neu hyd yn oed i gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol. Mae bioamrywiaeth forol yn dirywio. Mewn gwirionedd, yn ôl yr ail 'Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol', 46 y cant yn unig o nodweddion rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig sydd mewn cyflwr ffafriol. Mae diffyg cynllunio gofodol go iawn i arwain defnydd cynaliadwy o'n moroedd yn atal statws amgylcheddol da ac yn bygwth y broses o gynyddu datblygiadau ynni gwynt ar y môr.

Er fy mod yn cydnabod yr ymrwymiad yn yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, a diolch i’r Dirprwy Weinidog am wneud hyn, i weithio gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol i nodi ardaloedd adnoddau strategol morol erbyn 2023, roedd hyn er mwyn darparu arweiniad i gyfeirio at ardaloedd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu. Ond arweiniad yn unig yw hynny. Mae angen inni greu dyletswydd gyfreithiol yn awr i greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, un sy’n berthnasol i Gymru, a’i adolygu'n rheolaidd. Fel y mae’r RSPB wedi’i nodi, mae diffyg polisïau gofodol a rheolaethau datblygu statudol cadarn wedi'u pwysoli i lywio datblygiadau oddi wrth ardaloedd amgylcheddol sensitif o’r cychwyn yn creu ansicrwydd i bawb, ac yn arwain yn anochel at wrthdaro yn ystod y cam ymgeisio.

Cefnogodd y Farwnes Brown o Gaergrawnt gynllunio gofodol, gan nodi:

'Credaf fod cynllunio gwely'r môr er mwyn sicrhau y gallwn alluogi'r gweithgareddau hyn i gydfodoli heb... drefoli gwely'r môr, yn hynod bwysig.'

Mae llawer o’r Aelodau’n gweithio gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, ac maent wedi datgan eu bod yn wyliadwrus o ddull tameidiog sydd, o’i gyfuno â chynnydd sylweddol mewn cynigion datblygu, yn rysáit ar gyfer effeithiau annisgwyl, cronnol a chyfunol. Mae angen i ardaloedd adnoddau strategol fod yn rhan o gynllun gofodol morol cyfannol, fel yr amlygir yn yr adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru ei hun. Mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi galw am gynllun gofodol statudol traws-sector sy’n mynd i’r afael ag effeithiau cronnol datblygu morol. Felly, gadewch inni ofyn i ni'n hunain: sut y gall fod yn iawn, pan fo gan gynllunio ar y tir 'Cymru’r Dyfodol', 'Polisi Cynllunio Cymru' a chynlluniau datblygu lleol i lywio datblygiad, nad oes system debyg ar gael ar hyn o bryd ar gyfer yr hyn sy'n digwydd yn ein moroedd—a hoffwn ychwanegu, yn ehangder mawr ein moroedd? A hynny er bod gan Gymru oddeutu 32,000 km sgwâr o foroedd tiriogaethol.