6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) — Cynllunio morol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:40, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A dyna pam ein bod wedi rhoi cynllun morol cyntaf Cymru ar waith, cynllun y byddwn yn ei adolygu yn yr hydref, a chaiff ei adolygu bob tair blynedd, a bydd y Llywodraeth yn adrodd ar ei ganfyddiadau i'r Senedd. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau cynllunio morol helaeth a blaengar eisoes o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, ac rydym wedi defnyddio'r pwerau hyn i gyflwyno ein cynllun morol. Felly, nid ydym yn teimlo bod angen rhagor o bwerau. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu'r cynllun wrth i ni ddatblygu cynlluniau morol.

Ond wrth gwrs, mae technoleg wedi datblygu ers cyflwyno'r cynllun yn 2019, ac rydym yn cydnabod bod modd, a bod rhaid inni wneud rhagor. A'n blaenoriaeth yw darparu rhagor o gyfarwyddyd datblygu drwy'r cynllun morol, ac mae hyn yn cynnwys gwella ein dealltwriaeth o gyfleoedd datblygu, a bod rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol. Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd ein canllawiau lleoliadol cyntaf, ac mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ardaloedd lle y ceir potensial i ddatblygu, ac yn helpu datblygwyr i ddeall sensitifrwydd amgylcheddol. Fe'u cefnogir gan fapiau rhyngweithiol ar y porth cynllunio morol. Mae'r cynnig yn sôn am ddatblygu ardaloedd adnoddau strategol, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau fod gwaith eisoes ar y gweill ar ardaloedd adnoddau strategol. Yn wir, cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf i randdeiliaid ddoe. Bydd yr ardaloedd adnoddau strategol hyn yn ein helpu i ddeall pa ardaloedd sydd â photensial ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer ynni adnewyddadwy. Nawr, caiff yr ardaloedd hyn eu diogelu drwy ein system cynllunio morol. Felly, er mwyn bod yn glir, bydd yn rhaid i bob datblygiad, gan gynnwys ardaloedd adnoddau strategol, fodloni rheoliadau amgylcheddol cadarn cyn y rhoddir caniatâd. 

Mae'r brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn glir, Ddirprwy Lywydd, ac roedd yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy a gyflawnwyd gennym ychydig cyn y Nadolig yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddatblygu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy cynaliadwy a chwalu unrhyw rwystrau a oedd yn sefyll yn ei ffordd. Rydym yn glir fod ynni morol, gan gynnwys gwynt ar y môr, yn rhan hanfodol o'n cymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae'r cynnig hefyd yn galw ar ffermydd gwynt ar y môr i gynnwys gwelliannau amgylcheddol. Nid yn unig y mae'r cynllun morol yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ystyried sensitifrwydd ecosystemau morol, mae hefyd yn annog datblygwyr i gyfrannu at adfer a gwella'r amgylchedd morol. Un o'r camau gweithredu a ddeilliodd o'r archwiliad dwfn oedd adolygiad proses gyfan o'r system trwyddedu morol, ac rydym yn dechrau gweithio ar hynny. Nod yr adolygiad yw nodi cyfleoedd i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth forol. Ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor i ddiogelu ein hadar môr a gwella eu statws, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r RSPB, i gynhyrchu strategaeth cadwraeth adar môr Cymru. Bydd y strategaeth yn asesu maint y bygythiad y mae rhywogaethau adar môr yn ei wynebu ac yn nodi camau gweithredu i gefnogi eu gwarchod. 

Mae'r cynnig hefyd yn galw ar ddatblygwyr gwynt ar y môr i ddarparu strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr yn gynaliadwy, ac mae'r cynllun morol eisoes yn cynnwys polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ystyried cyfleoedd i rannu'r un ardal neu seilwaith â gweithgareddau morol eraill. Felly, unwaith eto, y patrwm yma, Ddirprwy Lywydd, yw'r safbwynt y cytunwn yn ei gylch—nid ydym yn credu bod angen deddfwriaeth newydd ar hynny. Credwn y gellir gwneud hyn drwy gynllun wedi'i ddiweddaru, ac rydym am weithio gydag Aelodau i wneud y cynllun mor gryf â phosibl. Y ddadl ganolog yn sylwadau agoriadol Janet Finch-Saunders, y bydd yn dychwelyd ati rwy'n siŵr, yw y dylid rhoi ein canllawiau mewn statud, ond pan fyddwch yn rhoi canllawiau mewn statud, rydych yn eu gwneud yn anhyblyg, oherwydd wedyn rhaid ichi osod statud newydd er mwyn diweddaru'r canllawiau. A'r hyn a wyddom am newid hinsawdd yw bod y wyddoniaeth yn datblygu'n gyflym, ac ni fyddem am arafu ein gallu i weithredu drwy roi rhywbeth mewn statud a gynhwyswyd gennym mewn canllawiau sy'n seiliedig ar y gyfraith, yn union fel y gwnawn mewn pob math o feysydd eraill lle mae gennym fframwaith o ddeddfwriaeth ac mae gennym ganllawiau yr ydym wedyn yn eu diweddaru i adlewyrchu'r wyddoniaeth. Felly, credwn ei fod yn ddull llawer mwy hyblyg a mwy priodol, yn hytrach na chael ein llethu gan rwystrau cyfreithiol, sy'n rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr fel arfer yn ein hannog i beidio â'i wneud. 

Mae'r cynllun morol hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynaeafu bwyd môr yn gynaliadwy. Mae'n gosod polisi clir, gan gefnogi arallgyfeirio ein pysgodfeydd yn gynaliadwy a datblygu dyframaeth, ac rydym yn datblygu canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau i ddeall cyfleoedd dyframaethu yn y dyfodol. Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar fapio ardaloedd adnoddau strategol ar gyfer y sector hwn. Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sawl agwedd ar y cynnig hwn, ac rydym wrthi'n bwrw ymlaen â gwaith i fynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd—materion dilys. Credwn fod gennym y pwerau sydd eu hangen arnom, ond rydym am weithio gyda'n gilydd ar draws yr holl bleidiau i sicrhau, pan fyddwn yn diweddaru'r cynllun, ein bod yn manteisio ar bob cyfle i'w wneud mor effeithiol ag y gallwn. Diolch.