Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 16 Mawrth 2022.
A siarad yn bersonol, cefais fy magu gan y genhedlaeth stoicaidd honno. Hwy oedd ein athrawon ysgol a'n siopwyr, pobl fusnes leol a darparwyr gwasanaethau lleol, ffrindiau teuluol ac aelodau o'r teulu. O leiaf cawsant gefnogaeth a dealltwriaeth dawel y bobl yn eu cymunedau lleol, gyda'r rhan fwyaf ohonynt hwythau hefyd wedi profi rhyfel mewn rhyw ffordd. Wrth gwrs, nid oedd hyn yn wir am y cenedlaethau a ddilynodd.
Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw ar y Senedd hon yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth ac aberth pobl o Gymru yn lluoedd arfog y DU ac i ddiolch i bersonél presennol a blaenorol y lluoedd arfog am eu cyfraniad i gymdeithas Cymru. Mae cyfamod y lluoedd arfog yn cyfeirio at y rhwymedigaethau cydfuddiannol rhwng gwledydd y DU a'n lluoedd arfog. Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008, yn cefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan ddod i'r casgliad fod yn rhaid ymladd dros hyn nes iddo gael ei ennill, a chroesawais gyhoeddi cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011 a gyflwynai ddyletswydd statudol o 2012 ymlaen i osod gerbron Senedd y DU adroddiad blynyddol sy'n ystyried effeithiau gwasanaeth ar aelodau rheolaidd ac wrth gefn o'r lluoedd arfog, cyn-filwyr, eu teuluoedd a'r rhai sydd mewn profedigaeth, a hefyd archwilio meysydd posibl lle y ceir anfantais a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle y bo'n briodol.
Llofnododd Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru y cyfamod ac ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion. Fodd bynnag, er bod gan bob un o'r 22 awdurdod lleol gyfamod cymunedol y lluoedd arfog sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael hyrwyddwyr lluoedd arfog o blith eu haelodau etholedig, mae angen gwneud rhagor. Er gwaethaf ymrwymiad datganedig awdurdodau lleol a GIG Cymru i ddarparu cynifer o wasanaethau wedi'u teilwra ag y gallant i'r lluoedd arfog, mae fy ngwaith achos, a gwaith achos aelodau eraill mae'n siŵr, yn darparu tystiolaeth nad yw hwn yn mynd yn ddigon pell.
Wrth siarad yma ym mis Rhagfyr 2017, dywedais:
'Roedd ymateb Llywodraeth y DU yn 2017 i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn a ddilynodd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog 2016 yn nodi cynnydd yng Nghymru.'
Mae'r dyfyniad yn parhau:
'Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, hyd yn hyn ni chafwyd adolygiad annibynnol o gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu'r cyfamod.'
Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2018, nodais unwaith eto na chafwyd adolygiad annibynnol o gynnydd a darpariaeth ledled Cymru gyfan ers sefydlu'r cyfamod. Felly, mae ein cynnig heddiw yn galw ar Senedd Cymru i ddatgan y dylai pwyllgor Senedd priodol, pwyllgor seneddol, ystyried adroddiadau blynyddol cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod cyn-aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol.
Arweiniais ddadl yma gyntaf wyth mlynedd yn ôl i alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiynydd lluoedd arfog. Wrth siarad yma yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ym mis Tachwedd 2017 ar ymchwiliad grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a chadetiaid i effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, dadl a arweiniwyd gan Darren Hill fel y—Darren Millar fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol—. Camgymeriad diffuant. Mae hon yn ddadl ddifrifol, rwy'n ymddiheuro. Gelwais ar Lywodraeth Cymru i ystyried 23 o argymhellion yr adroddiad i wella cymorth. Fel y dywedais, nododd yr ymchwiliad:
'Er mwyn cynnal y cyfamod... dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru i wella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus am ddarparu cyfamod y lluoedd arfog.'
Ychwanegais:
'Byddai comisiynydd yn cefnogi anghenion penodol cyn-filwyr, yn mynegi'r rhain i Lywodraeth Cymru ac yn craffu'n briodol ar wasanaethau i gyn-filwyr a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac awdurdodau lleol. Fel gydag argymhellion eraill yn yr adroddiad hwn, cafodd y rôl hon ei chefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog.'
Pan godais hyn eto y flwyddyn ganlynol, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthyf y byddai hyn,
'yn dargyfeirio adnoddau o wasanaethau a chymorth ymarferol.'
Wrth siarad yma fis Tachwedd diwethaf felly, croesawais y cyhoeddiad yng nghyllideb hydref y DU ynglŷn â sefydlu comisiynydd cyn-filwyr i Gymru, a fydd yn gweithio i wella bywydau a chyfleoedd cymuned y cyn-filwyr yng Nghymru, gan gydnabod eu cyfraniad i luoedd arfog y DU.
Roeddwn yn falch iawn wedyn o groesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi penodi Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni. Mae Cyrnol Phillips, sy'n briod ac yn byw yn sir Benfro, a chanddo bedwar o blant a llamgi Cymreig bywiog, newydd gwblhau ei gyfnod pontio ei hun i fywyd sifil ar ôl 33 mlynedd yn y fyddin. Bu'n gwasanaethu yn yr Almaen, Cyprus, yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Affganistan ac Irac, ac mae wedi arwain milwyr, morwyr a phersonél awyr ac wedi gweithio yn NATO, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y cyd-bencadlys a phencadlys y fyddin. Wrth gael ei benodi, dywedodd:
'Mae cymuned cyn-filwyr y lluoedd arfog yn rhan bwysig o gymdeithas Cymru a cheir traddodiad hir o wasanaeth ac aberth. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad a fy swydd i wella bywydau pob cyn-filwr a'u teuluoedd.'