7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:32, 16 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo'n gadarn i adeiladu ar ein gwaith yn cefnogi personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru. Byddwn ar fai pe na bawn yn dechrau heddiw drwy sôn am y sefyllfa ofnadwy yn Wcráin ac ailadrodd sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn sefyll mewn undod ag Wcráin a chyda phobl Wcráin, ac mae'n darparu £4 miliwn mewn cymorth ariannol a dyngarol i helpu i ddarparu cymorth hanfodol i'r rhai sydd mewn angen dybryd. 

Ac mae llawer o'r pwyntiau a godwyd gan Jenny Rathbone, yn amlwg, yn fater i Lywodraeth y DU, ond rwy'n ymwybodol o ohebiaeth ddiweddar fod milwyr Prydeinig yn barod i gefnogi'r ymdrech ddyngarol yn gysylltiedig â'r sefyllfa yn Wcráin. Credaf ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod y gallai'r sefyllfa bresennol gael effaith niweidiol ar rai o'n cyn-filwyr sydd â chyflyrau sy'n gysylltiedig â gwasanaethu yn deillio o'u hamser mewn ardaloedd rhyfel, ac mae ein gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr ac ystod eang o gymorth ar gael iddynt ei ddefnyddio, felly efallai y gallwn ddosbarthu manylion amdanynt i'r Aelodau eto i sicrhau eu bod yn gallu cyfeirio etholwyr, os bydd angen.

Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y lluoedd arfog ac yn cydnabod eu haberth yn fawr. Eleni, byddwn yn anrhydeddu'r rhai a wasanaethodd yn y Falklands, 40 mlynedd ar ôl y gwrthdaro hwnnw. Bydd y Prif Weinidog yn arwain gwasanaeth coffa cenedlaethol ym mis Mehefin, a byddaf yn cefnogi digwyddiadau ychwanegol, gan gynnwys taith feicio gyda chyn-filwyr, gan ddechrau wrth gofeb genedlaethol y Falklands yng Nghaerdydd.

Mae cyfraniad ein lluoedd arfog i'n gwlad yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi, ac ni fyddwn byth yn ei anghofio, boed hynny filoedd o filltiroedd i ffwrdd neu yma gartref. Ac rydym i gyd wedi gweld, ac yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae ein personél sy'n gwasanaethu wedi'i rhoi yn ystod y pandemig COVID, gan weithio gyda'r GIG. Maent wedi darparu cyflenwadau hanfodol, brechiadau, wedi gyrru ambiwlansys ac wedi ymgorffori'r ethos o roi eraill yn gyntaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu penodiad y Cyrnol James Phillips fel Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi sefydlu rolau comisiynwyr sy'n gweithio i wella'r cyfleoedd ar gyfer eu poblogaethau cyn-filwyr, a byddwn ninnau wrth gwrs yn cefnogi'r bwriad hwnnw yma yng Nghymru. 

Cefais gyfle i gwrdd â'r Cyrnol Phillips yn anffurfiol yng nghinio Dydd Gŵyl Dewi Brigâd 160 (Cymru)—y cinio y ceisiodd James Evans ddweud wrthyf ei fod wedi'i ganslo. Nid wyf yn gwybod beth oedd ei fwriad. [Chwerthin.] Nid wyf yn gwbod a oeddent wedi dweud wrth James ei fod wedi'i ganslo. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, er fy mod wedi gallu cwrdd â'r Cyrnol Phillips yn anffurfiol wythnos neu ddwy yn ôl, rydym wedi estyn gwahoddiad iddo ymuno â ni yma yn y Senedd i ddysgu mwy am yr hyn a wnawn yng Nghymru, fel Llywodraeth ddatganoledig a hefyd sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd yn y lle hwn gyda'r un nod o gefnogi ein cyn-filwyr a'u teuluoedd.

Yn wir, teimlaf y gallwn ymfalchïo nid yn unig yn y rhan y mae gweithio mewn partneriaeth wedi'i chwarae yn ein cynnydd wrth inni gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, ond hefyd yn y consensws trawsbleidiol a'r ymdeimlad cyffredin o bwrpas sy'n parhau yn y lle hwn.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes wedi cysylltu â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i drefnu cyfleoedd ymgysylltu rheolaidd lle y gallwn drafod sut y bydd penodiad y comisiynydd cyn-filwyr yn ychwanegu gwerth at y cymorth a ddarperir eisoes yng Nghymru o fewn ein strwythurau sefydledig, ac anghenion cymuned ein lluoedd arfog yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i gydweithio, ac mae gennym hanes o wneud hynny, i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru, o'n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog i'n swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sydd bellach yn adnabyddus. Rydym yn canolbwyntio'n gadarn ar roi ein hadnoddau cyfyngedig tuag at gymorth a gwasanaethau rheng flaen, yn cynnwys: y buddsoddiad parhaus yn GIG  Cymru i Gyn-filwyr i sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu cael y driniaeth iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt; cefnogi cyn-filwyr i ddod o hyd i waith, gan gynnwys digwyddiad cyflogaeth i rai sy'n gadael gwasanaeth a chyn-filwyr ym mis Tachwedd y llynedd, gyda'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa a'r 160 Brigâd, rhywbeth yr ydym yn awyddus i adeiladu arno eleni a chynllunio digwyddiad arall; yn ogystal â chyflwyno menter Gweithle Gwych i Gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog ym mis Tachwedd 2020, i roi'r dewis i gyn-aelodau'r lluoedd arfog ymuno â'r gwasanaeth sifil drwy gynlluniau gwarantu cyfweliad. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn gallu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ein hadroddiad blynyddol eleni, gan ddangos ein cred gadarn fod gan gyn-filwyr lawer i'w gynnig ar ôl gorffen eu gwasanaeth.

Mae cynnal egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog yn hanfodol i'n gwaith yng Nghymru. Rydym yn cydnabod y bydd gweithio gyda'n partneriaid allweddol, a'r comisiynydd yn awr, a gwledydd eraill y DU yn helpu i adeiladu ar ystod a chwmpas y cymorth a ddarperir. Mae ein rhwydwaith o swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn unigryw yn y DU ac fel y clywsom, maent wedi ymsefydlu yn ein hawdurdodau lleol ac maent yn gwbl hanfodol i gyflawni'r cyfamod ledled Cymru. Maent yn parhau i ddarparu cymorth allweddol, gan gynnwys cynnal cyrsiau a hyfforddiant iechyd meddwl a chymorth cyntaf, a sefydlu canolfannau i gyn-filwyr, fel y clywsom gan Laura Anne Jones heddiw, yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, a darparu cymorth pwysig iawn ar lawr gwlad lle mae ei angen. Ac maent hefyd yn cynnig mecanwaith i godi rhai o'r materion lleol hynny gyda'r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog er mwyn inni allu llenwi unrhyw fylchau a allai fod yn dal i fodoli o ran gwasanaethau a chymorth.

Fel Llywodraeth, ein dull gweithredu yw datblygu polisi drwy ymgynghori, mewn partneriaeth a rhwng cymheiriaid. Ymgysylltodd ein hymarfer cwmpasu ar gyn-filwyr, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, â thros 1,000 o gyn-filwyr, teuluoedd a sefydliadau ledled Cymru. Mae'n lefel o ymgysylltiad y byddem i gyd yn ei disgwyl gan unrhyw rôl sy'n cynrychioli barn cyn-filwyr, ac yn amlwg, byddwn yn cynorthwyo'r comisiynydd i sicrhau y gall ymgysylltu yn y ffordd orau â'r boblogaeth cyn-filwyr ym mhob rhan o Gymru.

Mae mwy o waith i'w wneud bob amser, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i adeiladu ar y cymorth hwn, yn enwedig ym maes cefnogi plant y lluoedd arfog, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar flaenoriaeth i gael y data CYBLD hwnnw a gwella hynny. Mae'n rhywbeth y gwnaethom ei gydnabod yn yr ymarfer cwmpasu, ac mae'n flaenoriaeth i ni wrth symud ymlaen yn awr.

Un o'r pethau yr ydym yn edrych ymlaen at ei drafod gyda'r comisiynydd newydd hefyd, y Cyrnol Phillips, yw'r cymorth i'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth ac yn dychwelyd i Gymru. Ni yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ganolfan adsefydlu, ac rydym yn ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth y DU ar hynny ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn amlwg yn croesawu unrhyw gefnogaeth i hynny gan Aelodau ar draws y meinciau yn y Siambr.

Os caf droi yn awr at bwynt 5 yn y cynnig ac adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hapus iawn i ystyried ai'r awgrym yn y cynnig yw'r ffordd fwyaf effeithiol o graffu ar yr adroddiad. Mae'r cymorth sydd ar gael i gymuned y lluoedd arfog yn cael ei gynnwys yn flynyddol yn adroddiad blynyddol y cyfamod, ac er nad ydym yn gorfod gwneud hynny ar hyn o bryd, rydym bob amser yn ceisio cael dadl flynyddol, a chaiff yr adroddiad ei osod yn y Senedd a'i graffu hefyd gan aelodau o'r grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog. Mewn gwirionedd, mae eu hadborth wedi'i gynnwys yn yr adroddiad i helpu i lywio ein blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Rydym hefyd yn cyfrannu at adroddiad blynyddol cyfamod Llywodraeth y DU, sydd hefyd yn destun craffu gerbron Senedd y DU, ac rwy'n falch iawn o dderbyn y gwahoddiad i ddod i'r grŵp trawsbleidiol eto yn y dyfodol.

Lywydd dros dro, hoffwn orffen fel y dechreuais, yn y modd colegol hwnnw, a dweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â'r comisiynydd cyn-filwyr, gyda'r holl randdeiliaid a phartneriaid, i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma, ac i symud ymlaen er budd ein cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.