Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 16 Mawrth 2022.
Mae ein cynnig yn galw am sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgybl, boed hynny drwy straen, stigma neu hyd yn oed orfod mynd heb fwyd, fel y clywsom mewn rhai achosion. Dylid ystyried bob amser pam y gallai dyled prydau ysgol fod wedi cronni. Nid yw'r rheswm byth o fewn rheolaeth y plentyn y mae'n effeithio arno ac yn ei niweidio. Felly, ni ddylai'r plentyn byth ddioddef canlyniadau'r ddyled honno. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i ganllawiau. Mae angen rhoi'r mater ar sail statudol, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau arlwyo ysgolion.
Y tu hwnt i ehangu prydau ysgol am ddim, mae rhai mentrau defnyddiol i helpu disgyblion eisoes ar waith wrth gwrs. Ond weithiau caiff eu heffeithiolrwydd ei lesteirio am nad oes llawer o bobl sydd â hawl i'r cymorth yn manteisio arno. Mae hwn yn faes lle y gallai'r Llywodraeth wneud gwahaniaeth go iawn. Mae hawliau wedi'u targedu i dalu costau addysg plant a phobl ifanc, fel y grant amddifadedd disgyblion - mynediad, a'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn helpu i gynyddu incwm ac yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi. Ond dengys ymchwil nad yw pob teulu cymwys yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, naill ai oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu oherwydd natur y broses ymgeisio. Mae geiriau un rhiant, sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, yn crynhoi hyn yn dda:
'Hoffwn pe bai yna daflen yn rhestru'r lleoedd y gallem gael cymorth ond rwy'n teimlo, oherwydd bod y ddau ohonom yn gweithio, na fyddem yn gymwys i gael y cymorth beth bynnag.'
Felly, ceir camsyniad cyffredin nad yw plant yn gymwys i gael cymorth fel prydau ysgol am ddim a'r grant datblygu disgyblion - mynediad os yw eu rhieni neu eu gofalwyr mewn unrhyw fath o gyflogaeth â thâl. Mae hefyd yn bwysig nodi bod tri chwarter y plant sy'n byw mewn tlodi eisoes yn byw ar aelwyd lle mae rhywun mewn gwaith.
Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amcangyfrif nad yw tua 55,000 o blant sy'n byw mewn tlodi yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n golygu na allant gael y grant datblygu disgyblion - mynediad chwaith. Yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw, mae'n hanfodol fod pob teulu'n cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Byddai mesurau fel cyflogi gweithwyr cynghori mewn ysgolion, neu fabwysiadu proses gofrestru awtomatig a phasbortio hawliau heb orfod gwneud cais yn dileu rhwystrau ac yn sicrhau bod pawb sy'n gymwys i'w cael yn eu cael.
Wrth fabwysiadu'r cwricwlwm newydd, dylai fod yn ofynnol i ysgolion sicrhau nad oes angen i unrhyw ddisgybl brynu deunyddiau neu offer i allu cymryd rhan mewn pynciau penodol. Mae angen inni ostwng neu ddileu'r costau hyn i bob disgybl. Dylai addysg fod yn hollgynhwysol. Ni ddylech orfod talu i ddysgu unrhyw bwnc yn yr ysgol.
Mae'r cwricwlwm newydd yn cyfuno llawer o bynciau â'i gilydd, sy'n golygu y gallai costau a thaliadau am adnoddau ymddangos mewn pynciau a oedd yn arfer bod yn fwy fforddiadwy. Mae'r cwricwlwm newydd a'r ymrwymiad cyffredinol i brydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd yn gyfle euraidd i greu system addysg wirioneddol gynhwysol, cyn belled â'n bod yn wynebu'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar blant teuluoedd ar incwm isel ar hyn o bryd.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig. Ni ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc deimlo eu bod wedi'u gadael allan oherwydd y pwysau economaidd ar eu teuluoedd. Mae'n rhaid inni weithredu i leihau'r effaith y mae tlodi yn amlwg yn ei chael ar ddysgu a chyfleoedd. Diolch.