Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 16 Mawrth 2022.
Rwyf finnau hefyd yn croesawu'r ddadl hon yn fawr. Yn gyntaf, rwyf eisiau rhoi sylw i'r problemau y mae ysgolion yn eu hwynebu. Mae'r setliad llywodraeth leol yn un da, ond ni all blwyddyn o gynnydd wneud iawn am dros 10 mlynedd o gyni. Er nad yw dyraniadau cyllidebau ysgolion yn y rhan fwyaf o gynghorau wedi'u cwblhau eto, disgwylir y byddant yn codi yn unol â gwariant y cyngor. Mae hyn yn wahanol i'r cynnydd yn y cymorth i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru. Er bod taliad Llywodraeth Cymru yn rhan fawr o incwm cynghorau, caiff ei chwyddo gan ffioedd a thaliadau'r dreth gyngor. Gyda'r disgwyliad mai cynnydd bach a welir yn y dreth gyngor, cynnydd bach i ffioedd a chynnydd bach i daliadau, mae'n golygu y bydd gwariant y cyngor yn cynyddu llai—gryn dipyn yn llai yn aml—na'r swm o arian a roddwyd gan y Senedd i'r cyngor.
Ac wrth edrych ar gyllidebau ysgolion, costau staff yw'r rhan fwyaf o wariant cyllidebau ysgolion, yn cynnwys staff addysgu a staff cymorth. Mae dyfarniadau cyflog yn effeithio ar gyllidebau ysgolion, gan arwain at godi cyflogau staff a chostau pensiwn uwch. Bydd costau ynni cynyddol hefyd yn effeithio ar ysgolion. Yn un o'r ysgolion lle rwy'n gadeirydd y llywodraethwyr, roedd cost nwy a thrydan eleni ychydig yn llai na £15,000. Disgwylir y bydd dros £30,000 yn y flwyddyn i ddod. Mae'n ysgol gynradd o faint canolig. Mae'n gynnydd o ychydig o dan 2 y cant o gyfanswm cyllideb yr ysgol. Er ei bod yn ymddangos y bydd cyllidebau ysgolion yn codi'n sylweddol, bydd y pwysau a grybwyllwyd yn golygu na fydd cymaint ar gyfer cymorth ychwanegol i ddisgyblion, a chredaf mai dyna un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt: mae'r arian yn mynd tuag at gefnogi disgyblion. Mae ysgolion yn bodoli ar gyfer disgyblion; maent yn bodoli i'w helpu i gyflawni eu potensial yn y ffordd orau y gallant.
Rwy'n cefnogi adolygu effeithiolrwydd y canllawiau statudol ar bolisi gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru. Mae nifer o rieni wedi cysylltu â mi ynglŷn â gwisg ysgol, a'r angen i brynu naill ai gan gyflenwyr drud neu drwy'r ysgol, yn hytrach na siopau rhatach. Hyd yn oed pan fydd yr un lliw yn union, pan fydd yn union yr un peth fel arall, mae'r ysgol yn gofyn i chi dalu swm a all fod yn llawer mwy. Do, fe'i talais; roeddwn yn ddarlithydd coleg, gallwn fforddio ei dalu. Roedd eraill a oedd â phlant yn nosbarth fy merch, pobl nad oeddent yn ddarlithwyr coleg, pobl nad oeddent ar gyflog da, yn ei chael hi'n anodd ei dalu.
Efallai y gall y Gweinidog esbonio i mi, pan fydd athrawon ysgol yn gwrthod dysgu disgyblion am eu bod yn gwisgo'r dillad anghywir—ac mewn un achos yr ymdriniais ag ef, y lliw du anghywir—sut nad yw'r ysgol yn torri'r gyfraith, a pham nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio CYBLD i dorri cyllid i ysgolion sy'n gwahardd disgyblion ar sail gwisg ysgol, mae hwnnw'n fater yr hoffwn ei weld yn cael sylw. Mae plant yn cael eu cosbi. Nid yw y plentyn sy'n penderfynu. Nid yw plentyn naw, 10, 11, 12 oed yn penderfynu pa liw côt y maent yn ei gwisgo; nid ydynt yn penderfynu pa liw siwmper y maent yn ei gwisgo; mewn gwirionedd, nid ydynt hyd yn oed yn penderfynu pa liw dillad sydd ganddynt yn wyth neu naw oed. Eu rhieni sy'n gwneud hynny. Mae cosbi plant am yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud yn foesol anghywir a dylid ei atal.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod sy'n cyflwyno'r ddadl yn ymuno â mi i gondemnio Cyngor Gwynedd a phenderfyniad pennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle a rybuddiodd rieni a gofalwyr mewn llythyr na fyddai eu plant yn cael prydau ysgol os na fyddai eu dyledion yn cael eu talu. Cosbi plant am yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud; mae hynny'n anghywir. Roedd y llythyr yn awgrymu na fyddai disgyblion yn cael eu bwydo pe baent mewn dyled o fwy na cheiniog. Yn ffodus ar ôl y sylw a gafodd a'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, cafodd y bygythiad ei dynnu'n ôl. Sut y gall rhywun feddwl bod peidio â bwydo plant yn syniad da?