8. Dadl Plaid Cymru: Yr argyfwng costau byw — Yr effaith ar ysgolion a phlant

Part of the debate – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM7954 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:

a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;

b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;

c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion—mynediad; 

d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;

e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.