Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 16 Mawrth 2022.
Rwy'n gwneud y cynnig, ac rwy'n falch o agor y ddadl bwysig ac amserol hon gerbron y Senedd.
Yn yr ymadrodd enwog hwnnw, ystyrir mai addysg yw'r cydraddolwr gorau. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau ein hathrawon a'n staff cymorth, mae tlodi'n greadur llechwraidd. Mae'n treiddio i leoedd lle y dylai pawb gael ei drin yn gyfartal, gan lesteirio ymdrechion i drin pawb yn deg, a gadael trywydd o annhegwch, allgáu a stigma o'i ôl, yn mygu cyfleoedd ac yn niweidio llesiant ein dinasyddion ieuengaf. A chan fod tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru, mae'n bresennol ym mhob ysgol wladol. Ni cheir yr un ward cyngor sydd â chyfradd tlodi plant is na 12 y cant.
Am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2019, roedd 28 y cant o blant Cymru yn byw ar aelwydydd islaw'r llinell dlodi, tua 195,000 o blant. Erbyn 2021, roedd y ffigur hwn wedi codi i 31 y cant. Disgwylir y bydd yr argyfwng costau byw yn gwneud yr ystadegau brawychus hyn hyd yn oed yn waeth. Mae'r toriad i gredyd cynhwysol a chredydau treth gwaith wedi gostwng incwm 40 y cant o aelwydydd â phlant dros £1,000 y flwyddyn. Hyd yn oed cyn i argyfwng COVID daro, gyda'i effaith niweidiol ac anghymesur ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, roedd y plant hyn mewn mwy o berygl o fod yn wael eu hiechyd ac yn llai tebygol o gyflawni'r graddau uchaf yn eu hysgol na'u cyfoedion o gartrefi incwm uwch. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion. Mae adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ar leihau cost y diwrnod ysgol yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn rhoi llais i'r rhai sy'n cael eu gwneud i deimlo eu bod wedi'u hallgáu, yn anhapus neu'n wahanol oherwydd eu hamgylchiadau economaidd. Mae arnom angen gweithredu ar y cyd i godi incwm teuluoedd a lleihau costau byw, a chanolbwyntio ar newid arferion sy'n atgyfnerthu stigma ar hyn o bryd ac yn trin pobl sy'n byw mewn tlodi mewn ffyrdd llai ffafriol.
Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â chyflawni hyn drwy'r system addysg. Efallai ein bod yn credu bod anfon plentyn i'r ysgol yn digwydd yn ddi-dâl. Fodd bynnag, fel y clywn, mae cost ddyddiol ynghlwm wrtho. Gofynnir i deuluoedd gyfrannu fel mater o drefn tuag at gostau gwisg ysgol, tripiau, elusennau, prydau ysgol a byrbrydau, ac i ddarparu cyfarpar ac adnoddau ar gyfer gwahanol bynciau. Gall hyn wneud plant yn agored i'r risg o stigma a chywilydd pan na allant fforddio hyd yn oed costau bach i allu cymryd rhan. Er bod canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion ar lawer o'r elfennau hyn o'r diwrnod ysgol a bywyd ysgol, mae llawer ohono'n anstatudol, a'r modd y caiff ei gymhwyso yn anghyson. Mae canlyniadau llawer o bolisïau neu ffyrdd o wneud pethau yn aml yn anfwriadol wrth gwrs, ond nid yw hynny'n ddigon da mewn gwirionedd. O safbwynt cydraddoldeb, o safbwynt hawliau dynol, o safbwynt hawliau plant, o safbwynt moesol, mae angen i bethau newid.
Mae'r cynnig yn manylu ar rai o'r ffyrdd y gallai'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r mater hwn. Bydd fy nghyd-Aelodau, Luke Fletcher, Delyth Jewell a Heledd Fychan yn canolbwyntio ar fesurau penodol, megis fforddiadwyedd gwisg ysgol, tripiau a gweithgareddau, a'r niferoedd sy'n hawlio budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael. Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn yr ysgol gynradd drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn dangos ei bod yn bosibl gwneud newidiadau mawr i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â thlodi plant ac yn ei drechu. O ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, dylem sicrhau yn awr fod cyflymu'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim yn yr ysgol gynradd yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth. Dylem hefyd gydnabod mai'r nod yn y pen draw yw adeiladu ar yr ymrwymiad hwnnw.