Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 16 Mawrth 2022.
Rydym wedi siarad yn y Siambr hon am addysg fel cydraddolwr; gydag addysg wych, beth bynnag yw eich cefndir, yn ddamcaniaethol, gallwch gyflawni beth bynnag y penderfynwch chi ei gyflawni. Nawr, mae llawer i'w ddweud am y datganiad hwn, yn enwedig ar y pwnc penodol yr ydym yn ei drafod heddiw.
Tybir bod ysgolion yn fannau teg, lle mae potensial pawb yn cael ei feithrin yn gyfartal. Ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn dadlau nad dyna yw bwriad ysgolion, ond mae rhwystrau'n dal i fodoli, yn enwedig i blant o deuluoedd incwm isel. Rydym eisoes wedi clywed am y problemau gyda mynediad at yr hyn y mae gan bobl hawl i'w gael; mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n credu yn egwyddor cyffredinioliaeth. Rydym wedi clywed am bwysigrwydd prydau ysgol am ddim—rhywbeth y gallaf dystio ei fod yn achubiaeth i lawer o deuluoedd. Ond mae ffactorau eraill i'w hystyried.
Un ohonynt yw darpariaeth lwfans cynhaliaeth addysg—unwaith eto, darpariaeth y gwn o brofiad personol ei bod yn achubiaeth i lawer, ac yn rhywbeth rwyf wedi ymgyrchu drosto ers imi gael fy ethol i'r lle hwn. Mae'n bryd i'r Llywodraeth adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac yn benodol, y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud cais. Ar hyn o bryd, mae'r swm a delir i ddysgwyr yr un faint yn awr â'r hyn ydoedd pan oeddwn i'n ei gael. Mae'r swm yr un faint yn awr â phan gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2004: £30 yr wythnos. Mae hyn yn golygu nad ydym wedi gweld cynnydd mewn ychydig o dan 20 mlynedd, felly nid yw wedi codi gyda chwyddiant o gwbl. Ac mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y byddai angen inni godi'r taliad i £45 er mwyn iddo fod yn gyfwerth â'r hyn ydoedd yng nghanol y 2000au.
Ar y broses o wneud cais, fel y gwyddom, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn seiliedig ar brawf modd ac fel y dangosodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, eisoes, mae problemau'n parhau o ran y nifer nad ydynt yn hawlio'r lwfans er eu bod yn gymwys, problem a achosir gan ffurflenni cymhleth ac anhawster i ddeall y broses o wneud cais. Yng Ngholeg Penybont, er enghraifft, ar gyfartaledd, mae rhwng 700 ac 800 o ddysgwyr addysg bellach llawn amser yn hawlio lwfans cynhaliaeth addysg, ond mynegwyd pryderon clir iawn gan staff yng Ngholeg Penybont fod llawer mwy o fyfyrwyr ei angen mewn gwirionedd. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn achubiaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Rydym yn derbyn yn gyffredinol mai addysg yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a bydd cadw myfyrwyr ôl-16 yn arwain at yr effaith ddymunol o roi cyfleoedd a sgiliau pellach i'r rhai o gefndiroedd difreintiedig, ond mae angen y cymorth hwnnw arnynt i barhau.
Maes arall yr hoffwn gyffwrdd arno yn y ddadl hon yw trafnidiaeth, a sut y mae rhieni'n aml yn wynebu dewis rhwng cost a diogelwch eu plentyn. Caiff y dewis hwn ei grisialu i mi gan faint o ohebiaeth a gaf yn rheolaidd gan rieni yng nghwm Llynfi. Yng Nghaerau, cymuned sy'n uchel ar y mynegai amddifadedd yn gyson, ac sy'n aml ymhlith y pump uchaf yng Nghymru, ceir disgyblion sy'n wynebu taith o 45 munud i awr i gerdded i'r ysgol ar hyd ffyrdd prysur ac ym mhob tywydd. Yn aml, y realiti i lawer o rieni sy'n gweithio yw nad oes ganddynt y moethusrwydd o allu blaenoriaethu lifftiau, yn enwedig os ydynt yn cymudo ac yn enwedig os yw arian yn brin. Nid yw'n gadael unrhyw ddewis: naill ai dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n gallu costio £15 yr wythnos y plentyn i aelwydydd, neu ddibynnu ar adael i'r plentyn gerdded os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy, neu efallai na fydd ar gael o gwbl mewn rhai mannau hyd yn oed. Gyda chostau tanwydd yn codi, mae'r gost hon yn debygol o godi, sy'n dangos sut y byddai pethau fel adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn olaf, os caf, Ddirprwy Lywydd, gan siarad ar sail fy mhrofiadau fy hun wrth imi dyfu i fyny, mae'r gefnogaeth hon yn hanfodol.
Pe byddech wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn yr ysgol gynradd y byddwn yn y Senedd yn rhoi areithiau fel hyn, y gwir amdani mae'n debyg yw mai fy ymateb cyntaf fyddai, 'Pam ar y ddaear y byddwn yn gwneud hynny? Mae gwleidyddiaeth yn ddiflas.' Ond ni fyddwn wedi ei gredu beth bynnag. Pan euthum i'r ysgol uwchradd, pan oeddwn yn y chweched yn Llanhari, er bod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ni fyddwn wedi credu y byddwn i yma yn awr. Ond rwy'n sicr mai'r gefnogaeth a roddwyd i mi pan oeddwn yn ifanc drwy brydau ysgol am ddim, drwy'r lwfans cynhaliaeth addysg yw un o'r rhesymau pam fy mod i yma yn awr.
Ond heddiw, er ei bod yn gwella drwy brydau ysgol am ddim i bawb er enghraifft, mae'r gefnogaeth honno'n dal i fod yn ddiffygiol. Mae hynny'n rhywbeth sydd ar flaen fy meddwl, nid ers cael fy ethol, ond ers imi adael yr ysgol. Yn hytrach na chodi'r ysgol ar fy ôl neu anwybyddu'r ffaith ei bod yn dechrau dangos ôl traul, gydag un neu ddwy o'r grisiau arni wedi torri yma ac acw, rwyf am ei chryfhau. Rwyf am ei gwneud yn haws i fyfyrwyr o gefndiroedd tebyg i fy un i, y rhai sy'n fi pan oeddwn i eu hoedran hwy, i allu camu ymlaen mewn bywyd. Ond mae'n dechrau gyda phob un ohonom yma. Ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom edrych yn ôl un diwrnod ar ein hamser yma a dweud ein bod wedi blaenoriaethu'r pethau cywir—gyda hyn yn un ohonynt.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, gan Luke yng nghanol y 2000au, a oedd stôn neu ddwy'n ysgafnach ac yn ddi-farf: diolch o waelod calon am y gefnogaeth honno. Ond gennyf fi, yn awr, yn y presennol, rhaid inni roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chost y diwrnod ysgol. Bydd yn newid bywydau plant o deuluoedd incwm isel er gwell.