Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 16 Mawrth 2022.
Gall y diwrnod ysgol gynnwys llawer o straen. Nid sôn am brofion mathemateg yn unig ydw i neu ruthro i orffen gwaith cartref ar risiau'r ysgol, rwy'n siarad am blant sy'n mynd i'r ysgol yn llwglyd ac yn methu fforddio byrbryd yn ystod egwyl y bore, plant sy'n ofni mynd drwy'r giatiau oherwydd eu bod yn poeni y gallai rhywun sylwi nad ydynt yn gwisgo'r esgidiau cywir neu'n cario'r bag cywir, plant sy'n teimlo cywilydd pan gaiff tripiau ysgol eu trafod am eu bod yn gwybod na fyddant byth yn gallu ymuno yn y sgwrs. Oherwydd, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r nos yn dilyn y dydd, mae malltod tlodi yn dilyn plant i fuarth yr ysgol ac i mewn i ystafelloedd dosbarth. Mae'n golygu nad oes ganddynt ddillad cywir ar gyfer ymarfer corff neu gas pensiliau crand mewn gwersi, ac mae'r arwyddion hynny o wahaniaeth sy'n hofran uwch eu pennau yn arwain yn rhy hawdd at fwlio.
Yn 2015, cymerodd dros 3,000 o blant ran mewn adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar fwlio. Dangosodd yr adroddiad, o'r enw 'Stori Sam', fod y gwahaniaeth canfyddedig yn cael ei nodi gan y plant eu hunain fel rhywbeth sy'n allweddol i ysgogi bwlio. Ac er y gellir cysylltu'r gwahaniaeth hwnnw ag ymddangosiad, ethnigrwydd neu anabledd, mae tlodi'n chwarae rhan ofnadwy o amlwg. Gofynnodd awduron yr adroddiad i'r plant dynnu llun cymeriad dychmygol o'r enw Sam sy'n cael ei fwlio. Fe ddangosaf un o'r lluniau hynny i'r Siambr. Fe welwch fod gan Sam dyllau yn ei ddillad ac mae'r dillad yn edrych naill ai'n hen neu heb eu golchi. Mae'n arddangos arwyddion ystrydebol o dlodi. Canfu adroddiad y comisiynydd, 'Siarter ar gyfer Newid' fod rhai sydd wedi profi tlodi parhaus fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o gweryla gyda ffrindiau ar y rhan fwyaf o ddyddiau, dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu bwlio'n aml, yn fwy tebygol o chwarae ar eu pen eu hunain, yn llai tebygol o fod â ffrindiau da, o gael eu hoffi gan blant eraill ac yn llai tebygol o siarad â'u ffrindiau am eu pryderon. Mae tlodi'n ynysu plant. Mae'n eu cloi yn y profiad ynysig o deimlo ar wahân. A Ddirprwy Lywydd, mae pethau penodol yn y ffordd y caiff ysgolion eu rhedeg sy'n dwysáu'r unigedd hwnnw ac sy'n arwain at fwlio.
Gadewch inni siarad eto am wisgoedd ysgol. Fel y clywsom, mae gan ormod o ysgolion gyflenwr penodol, sy'n cyfyngu ar ddewis ac yn golygu y gall y pris fod yn rhy uchel. Mae llawer o ysgolion, fel y clywsom, yn gorfodi polisi gwisg ysgol mor llym fel nad ydynt yn caniatáu sgert neu drowsus arall rhatach sydd yr un lliw, er enghraifft. Gall hynny godi cywilydd ar blant, a dyna pam ein bod yn galw am adolygu canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol. Mae rhywbeth yn arswydus yn y syniad fod plant yn cerdded o gwmpas yn gwisgo eu hembaras, fel y gall eraill dynnu arnynt o'i herwydd. Ac mae tripiau ysgol a diwrnodau gwisgo dillad eich hun, fel y clywsom, yn gallu gwneud i blant deimlo ar wahân ac yn wahanol hefyd. Mae cymorth y grant datblygu disgyblion yn amrywio ar draws gwahanol ysgolion, nid yw pob un ohonynt yn gwneud y gorau o allu gwneud teithiau â chymhorthdal, ac mae hynny'n golygu bod y plant tlotaf yn cael eu hamddifadu unwaith eto. A phan fydd eu ffrindiau i gyd yn treulio amser egwyl ac ar ôl ysgol yn sgwrsio am yr hyn y byddant yn ei wneud ar y tripiau, yn cynllunio beth i'w wisgo, nid yw'r rhai nad ydynt yn gallu fforddio mynd yn teimlo bod yr ysgol yn rhywle y maent yn perthyn iddo. Mae i fod yn gydraddolwr, gyda chyfle cyfartal i bawb. Mae dau ystyr i'r gair Cymraeg 'ysgol', ond i gynifer o blant, caiff yr ysgol ei chicio ymaith cyn iddynt gael cyfle i ddechrau ei dringo hyd yn oed.
I gloi, mae dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos mai gwaethygu a wnaiff y sefyllfa, fel y clywsom. Bydd biliau ynni'r cartref yn codi £693 y flwyddyn ar gyfartaledd ym mis Ebrill, cynnydd sy'n cyfateb i 12 y cant o incwm gwario aelwydydd Cymru yn y dengradd tlotaf. A hynny cyn ystyried y ffaith bod disgwyl i chwyddiant gyrraedd y lefel uchaf ers 30 mlynedd yn y gwanwyn, sef 7 y cant. Beth fydd y pethau mwyaf tebygol i fynd, hyd yn oed i deuluoedd nad ydynt mewn trafferthion enbyd? Bydd pethau yr ystyrir eu bod yn foethusrwydd bach yn diflannu: dillad chwaraeon, arian poced, gwersi cerddoriaeth, tripiau. Ond ni ddylai'r rhain fod yn foethusrwydd. Dyma'r pethau sy'n gallu agor drysau a chyfoethogi bywydau plant ac sy'n golygu, er eich bod yn dod o gefndir tlotach, y gall eich bywyd fod yr un mor ogoneddus a llawen â bywyd eich cyfoedion. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y ddadl hon yn arwain at newid, oherwydd dylai pob plentyn deimlo'n hapus a theimlo bod croeso iddo yn yr ysgol.