Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 16 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Pam ein bod ni yma fel Aelodau'r Senedd os nad ydym yn gwneud hyn yn iawn? Wedi'r cyfan, mae gwleidyddion wedi bod yma o'r blaen. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn cofio'r targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020—rhywbeth a oedd wrth wraidd ymgyrch etholiadol 1997 i'r Llywodraeth Lafur, ac a gadarnhawyd bryd hynny gan Tony Blair yn 2002 a'i fabwysiadu gan y Senedd hon hefyd fel targed. Cofiaf yn 2008, pan oeddwn yn gweithio i gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, fod hynny'n ffocws ac yn flaenoriaeth i'n gwaith, ac eto dyma ni, mewn sefyllfa sy'n gwaethygu. Nid sgorio pwyntiau yw hyn, ond os ydym am wneud unrhyw beth yn nhymor y Senedd hon, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw'r rhain yn eiriau gwag a ailadroddir eto mewn degawd, wrth i'r ystadegau barhau i wneud cam ag un genhedlaeth ar ôl y llall o blant.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl ac a rannodd straeon personol iawn hefyd. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn weithiau i bobl edrych arnom fel cynrychiolwyr etholedig a chymryd yn ganiataol ein bod yn dod o gefndir penodol. Felly, diolch, Luke, a Mike hefyd, am rannu eich profiadau personol eich hunain, oherwydd mae'n bwysig fod y Senedd hon hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, a gwyddom nad yw pobl yn gallu cael dechrau teg mewn bywyd a mynediad cyfartal at yr holl gyfleoedd ar hyn o bryd.
Sioned Williams, yn ei sylwadau agoriadol—. Roedd yn emosiynol iawn gwrando ar y pethau yr oeddech yn eu dweud. Credaf mai un o'r pethau a wnaeth argraff arnaf oedd yr un allweddol—nad yw'r rheswm byth o fewn rheolaeth y plentyn, ac eto, yn rhy aml, cawsom enghreifftiau mynych drwy gydol y ddadl hon o'r plentyn yn teimlo'r cyfrifoldeb hwnnw. Mike, pan sonioch chi am beidio â mynd â nodiadau adref, am beidio â rhoi eich rhieni yn y sefyllfa honno—. Oherwydd yn aml, y canfyddiad yw bod tlodi yn ddewis neu fod pobl ar fai, ond nid yw hynny'n wir, a chredaf fod angen inni fod yn realistig yma ynglŷn â'r ffaith ei fod yn ddewis gwleidyddol. Mae gennym ddulliau at ein defnydd. Rwy'n gwybod ein bod yn teimlo'n rhwystredig yma yng Nghymru ar adegau nad oes gennym yr holl ddulliau i newid hyn at ein defnydd, ond fe allwn newid pethau os ydym yn benderfynol o wneud y newidiadau hynny.
Ar gyfraniad Laura Anne Jones—cyfeiriad eto at argyfwng costau byw fel rywbeth sy'n bodoli mewn gwledydd eraill. Efallai fod hynny'n wir, ond mae gennym gyfraddau tlodi plant sydd ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, a chredaf nad yw dweud bod argyfwng costau byw mewn mannau eraill yn golygu ei bod hi'n iawn ei fod yn bodoli yma, a chredaf fod angen inni wneud popeth yn ein gallu, nid yn unig i dderbyn bod yna argyfwng costau byw, ond i dderbyn cyfrifoldeb am benderfyniadau gwleidyddol sy'n arwain at hynny. Oherwydd, wedi'r cyfan, mae gennym yr ystadegau, gwyddom am effaith peidio â chadw'r ychwanegiad o £20 yr wythnos, a chredaf fod angen inni fod yn glir hefyd, hyd yn oed pe bai wedi'i gadw, nad yw'n golygu na fyddai pobl yn byw mewn argyfwng. Byddai wedi gwneud pethau ychydig yn well, fel y gwnaeth yn ystod y pandemig, ond ni fyddai wedi cadw pobl rhag mynd i ddyled, neu dlodi plant rhag gwaethygu, ond mae peidio â'i gael yn gwneud y sefyllfa'n waeth byth. Felly, mae angen inni fod yn glir yma, nid yw'r ffaith bod gwledydd eraill o bosibl yn wynebu argyfwng costau byw yn dileu cyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ac mae yna bethau y gallem eu newid. Y ffaith nad yw'r credyd cynhwysol yn codi gyda chwyddiant hyd yn oed—penderfyniadau gwleidyddol yw'r rheini.
Mae'r anghysondeb yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn y ddadl—anghysondeb o ran y costau, o ran y modd y caiff y canllawiau eu gweithredu gan ysgolion. A Mike, rwy'n credu ichi sôn ei bod yn foesol anghywir i achosi cywilydd i unrhyw blentyn. Wrth gwrs ei bod, ac ni ellir dirnad sut y byddai unrhyw un yn meddwl bod hynny'n dderbyniol. Ond eto, mae'n digwydd, dro ar ôl tro. A hoffwn adleisio galwadau fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg—y ffaith nad yw wedi newid ers 2004. Ac eto, gofynnwch i unrhyw un, mae costau trafnidiaeth wedi codi, cost gwerslyfrau—mae popeth wedi codi, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno ar fyrder. Credaf fod y ffaith eich bod yn gallu dweud, Luke, ynglŷn â'r effaith honno'n bersonol—mae hynny'n gywir, mae angen inni feddwl am sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael i bawb.
Soniodd John Griffiths am gost gweithgareddau a phrofiadau, ac ysgolion â ffocws cymunedol, gan sôn hefyd am yr anghysondeb ledled Cymru a hyd yn oed o fewn awdurdodau lleol o ran mynediad cyfartal at gyfranogiad. A Delyth, roedd y portread o Sam yn dangos arwyddion ystrydebol o dlodi yn drawiadol iawn. Mae hynny'n dorcalonnus, ac os nad yw hynny'n ein hysgogi i weithredu gyda'n gilydd ar hyn, beth arall a all wneud hynny? Oherwydd rydych chi'n iawn, mae angen inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal ac nad yw pobl yn cael eu gwneud i deimlo'n wahanol. Cofiaf fy nyddiau ysgol fy hun, a gweld rhai o fy ffrindiau yn aros mewn rhes ar wahân am eu cinio am eu bod yn cael prydau ysgol am ddim, ac ar unwaith, mae'r ffaith y gall hynny barhau i ddigwydd yn awr, gwahaniaethu o'r fath yn ffiaidd.
Ar ymateb y Llywodraeth, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am amlinellu cefnogaeth y Llywodraeth i hyn. Yn amlwg, mae gennym nifer o bethau yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim. Ond fel y soniais ar y dechrau, os ydym o ddifrif ynglŷn â dileu tlodi plant a rhoi dechrau teg mewn bywyd i bawb, mae gofyn i bob un ohonom ymrwymo i hynny. Siaradwyd geiriau gwag o'r blaen. Rydym yn Senedd newydd yma, mae yna ymrwymiad o'r newydd. Gadewch inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, gadewch inni sicrhau nad ydym yn dweud yr un peth ymhen degawd ac yn siomi cenhedlaeth arall o blant. Diolch.