Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 16 Mawrth 2022.
Yn 2019, Ddirprwy Lywydd, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud canllawiau ar wisg ysgol yn statudol i gynorthwyo cyrff llywodraethu yn well wrth iddynt wneud eu penderfyniadau ar bolisïau gwisg ysgol o ran mynediad, fforddiadwyedd a hyblygrwydd. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion a chyrff llywodraethu i sicrhau bod y canllawiau'n cefnogi fforddiadwyedd i deuluoedd ledled Cymru yn effeithiol.
Cytunwn na ddylai plant a phobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd dyled prydau ysgol.