Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, dechreuodd ymgyrch brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn yng Nghymru yr wythnos diwethaf, ar 14 Mawrth, gan ganolbwyntio ar breswylwyr cartrefi gofal yn y lle cyntaf. Rydym yn disgwyl, o fewn tair wythnos arall, y byddwn ni wedi cwblhau'r rhan fwyaf o'r brechu mewn cartrefi gofal. Bydd rhai cartrefi gofal, oherwydd achosion, lle bydd angen rhywfaint o amser ychwanegol, ond bydd y rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael y brechiad atgyfnerthu hwnnw. Ac yna byddwn yn parhau â gweddill y boblogaeth. Mae'n dibynnu, fel y gwn fod yr Aelod yn ymwybodol, pryd y cawsoch eich brechiad diwethaf pryd cewch chi eich galw, gan fod yn rhaid i nifer penodol o wythnosau fynd heibio cyn ei bod hi'n ddiogel ac yn synhwyrol i chi gael y pedwerydd brechiad. Byddwn yn defnyddio'r holl ddulliau cyfathrebu arferol—yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd, gan ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ei hun, y mae arweinydd yr wrthblaid wedi dangos cryn ddiddordeb ynddyn nhw yn ddiweddar. Byddwn yn eu defnyddio nhw i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyfleu'r neges honno, a'r neges allweddol yng Nghymru yw y bydd y gwasanaeth iechyd yn cysylltu â chi; nid yw'n dibynnu arnoch chi'n mynd i chwilota am apwyntiad. Bydd y gwasanaeth iechyd yn dod atoch chi, a bydd yn gwneud hynny, fel yr ydym ni wedi gweld drwy'r pandemig cyfan, mewn modd dibynadwy iawn ac ar yr adeg iawn i chi.