Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:57, 22 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Er bod cysgod ffasgaeth dros Ewrop eto, mae'r comedïwr Jimmy Carr yn dal i wrthod ymddiheuro am awgrymu bod marwolaethau cannoedd o filoedd o Sipsiwn wrth law'r Natsïaid rywsut yn rhywbeth i'w ddathlu. Ddydd Llun nesaf, mae'n perfformio yn ein prifddinas yn Neuadd Dewi Sant. Mae Sipsiwn Cymru yn gofyn i'r lleoliad ganslo'r perfformiad mewn undod â nhw. Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar Neuadd Dewi Sant ac yn ei rheoli ac mae'n cael cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Fel Prif Weinidog, ac yn wir fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, a wnewch chi ofyn i arweinyddiaeth Lafur Cyngor Caerdydd gytuno i alwad cwbl resymol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, o dan yr amgylchiadau, na ddylai unrhyw leoliad a ariennir yn gyhoeddus fod yn llwyfan ar gyfer hyrwyddwr diedifar o ymadroddion hiliol? Os byddan nhw'n gwrthod gwneud hynny, a wnewch chi ofyn i gyngor y celfyddydau adolygu telerau ei gyllid ar frys?