Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 22 Mawrth 2022.
Mae'r safbwyntiau a briodolwyd i'r unigolyn yn gwbl annerbyniol a byddai unrhyw un, rwy'n credu, yn eu condemnio yn y Siambr hon. Fe wnaethom ni siarad yr wythnos diwethaf am ein pryderon ynghylch cymunedau Sipsiwn/Teithwyr, ac fe wnaethom ni eu trafod am gryn amser ym mwrdd plismona Cymru, yr oedd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau yn bresennol ynddo. Pe bai mor syml â chyhoeddi gorchymyn ac unioni pethau, yna wrth gwrs byddem ni'n gallu gwneud hynny, ond rwy'n gwybod o'r hyn yr wyf i wedi ei glywed gan Gyngor Caerdydd nad yw mor hawdd â hynny. Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yn wrthun i fy nghydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd, fel y maen nhw i bob un ohonom ni yma, ac rwy'n siŵr y bydd y teimladau hynny yn cael eu cyfleu yn rymus.