Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 22 Mawrth 2022.
Wel, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor. Mae'r ymchwil mae e wedi cyfeirio ato gan y brifysgol ym Manceinion yn dod ar ben popeth arall rŷn ni wedi ei weld, gyda'r Resolution Foundation, yr Institute for Public Policy Research, ac yn y blaen, sy'n dangos yr un peth—yr effaith. Mae'r codiad mewn costau byw yn mynd i gael effaith enfawr ar bobl yma yng Nghymru.