Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:33, 22 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Arweiniodd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt uwchgynhadledd yn ôl ym mis Chwefror, a ddenodd dros 150 o bobl o amgylch y bwrdd at ei gilydd, i wneud yn siŵr bod gennym ni'r wybodaeth orau bosibl gan y sefydliadau hynny sy'n darparu gwasanaethau i bobl ar y rheng flaen, ac i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn paratoi i chwarae pa bynnag ran y gallen nhw wrth ymateb i'r argyfwng—ac fe fydd yn argyfwng—sy'n wynebu cynifer o deuluoedd yng Nghymru.