Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Mawrth 2022.
Llywydd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ledled Cymru, gan gynnwys yn Ne Clwyd. Mae'n rhaid i ddatganiad y gwanwyn yfory gynnwys camau gweithredu i roi cymorth i'r rhai sydd leiaf abl i reoli'r argyfwng yn yr agweddau mwyaf hanfodol ar fywyd bob dydd, gan ehangu mynediad at fwyd ac at danwydd i'r rhai a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd hebddyn nhw.