1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2022.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yn Ne Clwyd? OQ57861
Llywydd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ledled Cymru, gan gynnwys yn Ne Clwyd. Mae'n rhaid i ddatganiad y gwanwyn yfory gynnwys camau gweithredu i roi cymorth i'r rhai sydd leiaf abl i reoli'r argyfwng yn yr agweddau mwyaf hanfodol ar fywyd bob dydd, gan ehangu mynediad at fwyd ac at danwydd i'r rhai a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd hebddyn nhw.
Diolch, Prif Weinidog. A byddwch chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, o ddata o adroddiad 'Crunch Point' gan Cyngor ar Bopeth, sy'n dangos na fydd 14.5 miliwn o bobl—un o bob pump o bobl ym Mhrydain—yn gallu fforddio eu biliau ynni pan fydd prisiau yn codi ym mis Hydref, yr union adeg y byddwn ni'n cyrraedd y gaeaf. Ac erbyn hynny, bydd un person sy'n cael budd-daliadau yn gwario hyd at 47 y cant o'i gredyd cynhwysol ar filiau ynni. Bydd aelwydydd ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu taro'n arbennig o galed, ac felly, wrth gwrs, mae plant, yr henoed a phobl anabl yn debygol o wynebu'r gaeaf llymaf oni chymerir camau.
Prif Weinidog, ni ddylai'r un Llywodraeth ganiatáu i'w phobl rewi na newynu, ond dyna'n union sy'n mynd i ddigwydd oni bai bod Prif Weinidog y DU a'r Canghellor yn cymryd camau dramatig ar unwaith o ran costau ynni. Ac rwy'n pryderu na ddylai'r rhai sydd mewn trafferthion aros yn guddiedig, o'r golwg, na chael eu hamddifadu o gymorth hanfodol. Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o ba ddata sy'n cael eu casglu gan gwmnïau ynni ynghylch hunan-gyfyngu cyflenwadau ynni, neu hunan-ddatgysylltu yn wir?
Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn ychwanegol grymus yna. Wrth gwrs, mae'n iawn: yn natganiad y gwanwyn yfory, mae gan Ganghellor y Trysorlys gyfle i wneud y pethau ymarferol hynny a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mywydau'r bobl hynny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Jane Hutt a Julie James, gyda'i gilydd, at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ôl ar 11 Ionawr, gyda chwe gwahanol gam ymarferol y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd a fyddai'n arwain ar unwaith at ryddhad i bobl sy'n wynebu'r her fwyaf.
Ond, Llywydd, mae Ken Skates wedi nodi, yn fy marn i, un o'r is-grwpiau sy'n peri'r pryder mwyaf yn y boblogaeth honno: pobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu cyflenwad ynni. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd gen i yn awgrymu y bydd defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn gwario £10 bob dydd i ychwanegu at eu mesurydd. Os ydych chi'n berson sengl sy'n byw ar fudd-daliadau, mae gennych chi £77.29 am yr wythnos gyfan ar gyfer popeth. Felly, ni fyddan nhw'n talu £10 y dydd, byddan nhw'n mynd hebddo. Dyna'r unig ffordd y byddan nhw'n gallu ymdopi. Bydd eu biliau yn codi o £1,309 ar hyn o bryd i £2,017 ar ôl mis Ebrill.
Ac mae arnaf ofn mai'r ateb i gwestiwn Ken Skates yw nad oes ffigurau yn cael eu cadw ar bobl sy'n hunan-ddatgysylltu. Ers llawer rhy hir, mae'r cwmnïau ynni wedi cuddio y tu ôl i'r ffuglen gyfforddus bod pobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu yn dewis datgysylltu, ond rydym yn gwybod yn iawn mai dyma'r unig ffordd y gallan nhw ymdopi. Ac mae pobl yn wynebu gaeaf llwm dros ben o dan yr amgylchiadau hynny.
Llywydd, rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i'n rhan o rywfaint o waith ymchwil prifysgol ar y mater hwn, roeddwn i'n ymwneud ag Undeb y Brigadau Tân, a gyhoeddodd adroddiad ar nifer y marwolaethau plant—marwolaethau plant a achoswyd gan bobl y gorfodwyd iddyn nhw hunan-ddatgysylltu gan na allen nhw fwydo'r mesurydd, a ddefnyddiodd ganhwyllau mewn ystafelloedd gwely, lle aeth llenni ar dân ac y bu farw plant. Wyddoch chi, dyna'r amgylchiadau y bydd llawer o deuluoedd yng Nghymru yn cael eu hunain ynddyn nhw eto ar ôl y mis nesaf. Os oes unrhyw beth mwy brys ar fwrdd y Canghellor, mae'n anodd dychmygu beth allai fod yn hytrach na gwneud yn siŵr bod cymorth priodol i deuluoedd sy'n wynebu'r dewisiadau llwm dros ben hynny.