Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Mawrth 2022.
Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn ychwanegol grymus yna. Wrth gwrs, mae'n iawn: yn natganiad y gwanwyn yfory, mae gan Ganghellor y Trysorlys gyfle i wneud y pethau ymarferol hynny a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mywydau'r bobl hynny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Jane Hutt a Julie James, gyda'i gilydd, at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ôl ar 11 Ionawr, gyda chwe gwahanol gam ymarferol y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd a fyddai'n arwain ar unwaith at ryddhad i bobl sy'n wynebu'r her fwyaf.
Ond, Llywydd, mae Ken Skates wedi nodi, yn fy marn i, un o'r is-grwpiau sy'n peri'r pryder mwyaf yn y boblogaeth honno: pobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu cyflenwad ynni. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd gen i yn awgrymu y bydd defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn gwario £10 bob dydd i ychwanegu at eu mesurydd. Os ydych chi'n berson sengl sy'n byw ar fudd-daliadau, mae gennych chi £77.29 am yr wythnos gyfan ar gyfer popeth. Felly, ni fyddan nhw'n talu £10 y dydd, byddan nhw'n mynd hebddo. Dyna'r unig ffordd y byddan nhw'n gallu ymdopi. Bydd eu biliau yn codi o £1,309 ar hyn o bryd i £2,017 ar ôl mis Ebrill.
Ac mae arnaf ofn mai'r ateb i gwestiwn Ken Skates yw nad oes ffigurau yn cael eu cadw ar bobl sy'n hunan-ddatgysylltu. Ers llawer rhy hir, mae'r cwmnïau ynni wedi cuddio y tu ôl i'r ffuglen gyfforddus bod pobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu yn dewis datgysylltu, ond rydym yn gwybod yn iawn mai dyma'r unig ffordd y gallan nhw ymdopi. Ac mae pobl yn wynebu gaeaf llwm dros ben o dan yr amgylchiadau hynny.
Llywydd, rai blynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i'n rhan o rywfaint o waith ymchwil prifysgol ar y mater hwn, roeddwn i'n ymwneud ag Undeb y Brigadau Tân, a gyhoeddodd adroddiad ar nifer y marwolaethau plant—marwolaethau plant a achoswyd gan bobl y gorfodwyd iddyn nhw hunan-ddatgysylltu gan na allen nhw fwydo'r mesurydd, a ddefnyddiodd ganhwyllau mewn ystafelloedd gwely, lle aeth llenni ar dân ac y bu farw plant. Wyddoch chi, dyna'r amgylchiadau y bydd llawer o deuluoedd yng Nghymru yn cael eu hunain ynddyn nhw eto ar ôl y mis nesaf. Os oes unrhyw beth mwy brys ar fwrdd y Canghellor, mae'n anodd dychmygu beth allai fod yn hytrach na gwneud yn siŵr bod cymorth priodol i deuluoedd sy'n wynebu'r dewisiadau llwm dros ben hynny.