Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 22 Mawrth 2022.
Llywydd, bydd ein cronfa fynediad, sy'n helpu teuluoedd gyda chost y diwrnod ysgol, yn dechrau ar ei phumed flwyddyn y mis nesaf. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi cael ei hehangu yn raddol. Cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog addysg, y datblygiad diweddaraf, sef cynnydd o £100 y plentyn i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw eleni, ar 14 Mawrth.