Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Wrth i ni ddechrau addasu i fywyd ar ôl y pandemig, mae'n bwysig bod y sylfeini cywir yn cael eu creu er mwyn meithrin a chefnogi busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol, ac nid mater o ymateb i'r pandemig yn unig ydyw, ond hefyd ymdrin â'r materion hirsefydlog y mae busnesau ledled Cymru wedi bod yn eu hwynebu, fel yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau cynhenid yn y farchnad lafur, a chystadlu mewn byd sydd wedi'i gysylltu fwy yn ddigidol. Mae datganiad heddiw'n nodi rhywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar genhadaeth Cymru o ran cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru, ac er bod y cynnydd hwnnw i'w groesawu, mae mwy y gellir ei wneud bob amser.
Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at rai o'r camau sydd wedi'u cymryd i gefnogi'r economi sylfaenol, fel cyflwyno'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol a'r pecyn cymorth i drethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Yn sgil y pandemig, mae'n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr economi sylfaenol, oherwydd bod gan y buddsoddiad hwn fanteision amlwg mewn meysydd polisi eraill a gall helpu i ymdrin â'n hôl troed carbon a chyrraedd targed sero net Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod arfer da'n cael ei rannu a'i gyflwyno ledled Cymru, felly efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch y ffordd y mae'n sicrhau bod hynny'n digwydd, boed hynny o ran caffael bwyd, y sector manwerthu, neu hyd yn oed ofal cymdeithasol.
Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at y cynllun pontio newydd, a fydd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r dasg o fyw gyda coronafeirws. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio ar sail tystiolaeth, felly efallai y caf ychydig mwy o wybodaeth gan y Gweinidog am y cynllun pontio a'r effaith y bydd yn ei chael ar fusnesau ledled Cymru, a sut y caiff eu lleisiau eu clywed wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Nid dyna'r unig gynllun y mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio ato, ac rwy'n croesawu'n fawr gyhoeddi'r strategaeth gweithio o bell a gweledigaeth strategol ar gyfer manwerthu. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y strategaethau hyn ar gael gorau po gyntaf. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni pryd y mae'r strategaethau penodol hyn yn debygol o gael eu cyhoeddi.
Mae cenhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ganol ein trefi, ac mae'n cydnabod, a hynny'n briodol, fod llawer o ganol trefi Cymru yn galw am weithredu ar frys. Nid meysydd busnes yn unig yw canol ein trefi—nhw yw calon ein cymunedau lleol, ac mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i'w cefnogi wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn cefndir o newid cymdeithasol enfawr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith a gafodd ei wneud gan Archwilio Cymru fis Medi diwethaf ar adfywio canol trefi, ac yn fwy diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, sy'n iawn i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn ogystal â dweud pan ddaw'n fater o weithredu'n greadigol i fynd i'r afael â phla unedau gwag a throi'r cydbwysedd o blaid canol ein trefi. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wrthdroi'r broses o ddiberfeddu canol trefi ac adfer eu bywiogrwydd unwaith eto.
Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at sgiliau a chyflogaeth, ac rwy'n sylweddoli bod llawer o ddiwygiadau i'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyda'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at gadw graddedigion a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gysylltu myfyrwyr yn fwy effeithiol â'r cyfleoedd cywir gyda busnesau Cymru. Bydd y Gweinidog wedi gweld bod pamffled diweddar sy'n brolio cyfraddau cyflog cymharol isel wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar gan brifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n disgrifio bod gan Gaerdydd gyflogau is i raddedigion na Birmingham, Llundain, Caeredin a Glasgow, a fydd hyn yn gwneud dim i gynyddu nifer y graddedigion sy'n cael eu cadw. Felly, a wnaiff ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd a'r holl randdeiliaid eraill ynghylch cadw graddedigion a sut y mae Cymru'n cael ei marchnata?
Wrth i ni ailadeiladu ar ôl y pandemig, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn denu buddsoddiad mewn adferiad gwyrdd. Gwyddom ni fod cyfleoedd sylweddol i'r diwydiant gwyrdd a thechnoleg werdd. Er enghraifft, mae gan hydrogen y potensial i ddarparu atebion cyflenwi ledled y sectorau ynni a thrafnidiaeth. Mae'n hanfodol bod y sectorau hyn yn cael buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, y sector preifat hefyd. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Cymru wedi sefydlu targedau i 70 y cant o'n hanghenion trydan gael eu diwallu drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwaith yn y maes hwn a sicrhau bod y technolegau a'r sectorau hyn yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae nifer o gwestiynau eraill y gellid eu gofyn ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y genhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd ond ni wnaf drechu amynedd y Dirprwy Lywydd. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog eto am ei ddatganiad yn amlinellu rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud i greu economi fwy llewyrchus, gwyrddach a mwy cyfartal? Diolch.