Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Gan ddechrau gyda'ch pwyntiau am yr economi gydweithredol, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, gan fy mod i'n Aelod Llafur a Chydweithredol o'r Senedd, mae'n rhywbeth y mae gennyf i ddiddordeb arbennig ynddo. Wrth gwrs, mae safbwyntiau ar draws y Siambr. Cofiaf ddadl Huw Irranca-Davies ar y posibilrwydd o gael cyfraith Marcora Cymru, a'r gwaith yr wyf i'n ei wneud gydag ef a Chanolfan Cydweithredol Cymru i ystyried yr hyn sy'n bosibl.
Nid yw rhai rhannau o gyfraith Marcora yn yr Eidal yn bosibl oherwydd nad oes gennym ni'r holl bwerau o fewn hynny. Ond, yn hytrach na dweud, 'Dyma'r holl bethau na allaf i eu gwneud', yr hyn a ddywedais i yn y sgwrs honno gyda Huw Irranca-Davies a Chanolfan Cydweithredol Cymru yw fy mod i eisiau ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud, i ddeall sut y bydd hynny'n ein helpu ni i gyrraedd ein nod, nid yn unig i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn ystod tymor y Senedd hon, ond beth arall y gallwn ni ei wneud i roi rhan gryfach yn ein dyfodol i'r economi gydweithredol. Gan fy mod yn cydnabod bod nifer o bethau cadarnhaol sylweddol. A gan gyfeirio at gwestiynau'r Ceidwadwyr yn gynharach, mewn gwirionedd, os ydym ni eisiau cynyddu a gwella cadernid yr economi sylfaenol, mewn gwirionedd, mae gan fentrau cydweithredol ran fawr i'w chwarae, yn ogystal â bod yn sefydliadau sy'n gallu gweithredu mewn busnesau canolig a mawr ledled y wlad hefyd. Felly, rwy'n hoff iawn o'r sector cydweithredol a chydfuddiannol.
Clywais i'r hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud am y banc datblygu, ac a fyddai angen mwy o arian. Mae'n rhan o sgwrs barhaus yr ydym ni wedi'i chael gyda'r banc datblygu, a'r amcanion yr wyf i wedi'u gosod ar eu cyfer am weddill y tymor hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y ffordd y mae'r banc datblygu wedi mynd ati i fod yn greadigol wrth ymateb i rai o'r heriau wrth i ni ddod allan o'r argyfwng wedi creu argraff fawr arnaf i, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i fuddsoddi. Mae ganddyn nhw enw da am ddarparu nid yn unig gyllid, ond cyngor ochr yn ochr â busnesau hefyd. Mae nifer o feysydd penodol lle maen nhw eisoes yn gweithio. Mae ganddyn nhw gronfa olyniaeth rheoli gwerth £25 miliwn, sy'n ymwneud â rheolwyr yn prynu cwmniau. Mae ganddyn nhw hefyd fynediad i'r gronfa fuddsoddi hyblyg ar gyfer gweithwyr yn prynu cwmniau mwy.
Ond, mewn gwirionedd, bydd prif ran hyn yn deillio o'r cyngor pwrpasol y gall pobl ei gael gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, er enghraifft. Fel y nodais i yn fy natganiad, yr wyf i wedi cynyddu £0.5 miliwn arall yn ddiweddar i helpu Canolfan Cydweithredol Cymru. Rydym ni hefyd wedi gallu, mewn prosiect tymor hwy, cael arian cyfatebol cronfa ddatblygu ranbarthol Ewrop gwerth £11 miliwn ar gyfer prosiect y mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi'i gynnal.
Wrth i ni symud ymlaen, yr her yw, ar ôl cyllid yr UE, fod y cyllid hwnnw o dan fwy byth o bwysau nag o'r blaen, a phan wnes i sôn yn fy natganiad ac mewn datganiadau blaenorol am y pwysau sydd ar y cyllidebau, mae hynny'n golygu, os ydw i'n dewis parhau i ariannu'r maes hwnnw—ac rwy'n disgwyl y bydd gennyf i rywbeth i'w ddweud am ein gwaith ni gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ar gyfer y dyfodol—mae rhannau eraill o'r hyn y mae adran yr economi wedi gallu'i wneud yn y gorffennol na fyddwn ni'n gallu ei wneud ar yr un raddfa a lefel, ond rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r ateb i ymdrin â rhai o'r heriau sgiliau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn ddiweddarach.
Ond yr ateb gorau, wrth gwrs, yw pwl o synnwyr cyffredin a chyflawni addewidion maniffesto clir iawn ar Gymru a gweddill y DU heb golli ceiniog o gronfeydd sy'n cymryd lle cyllid yr UE. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a'r gyllideb yn nodi y bydd pob rhan o'r DU a oedd yn manteisio ar gronfeydd yr UE o'r blaen ar ei cholled i raddau helaeth. Wedi dweud hynny, rwy'n obeithiol, er nad yn sicr, y bydd yr adran ar gyfer codi'r gwastad yn dod i safbwynt gwahanol ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch trafod a gwneud penderfyniadau am y cronfeydd hynny, wrth barhau i gyflwyno'r achos dros dalu'r swm llawn o arian.
Ac mae hynny, rwy'n credu, yn dod yn ôl at eich pwyntiau olaf. Rwy'n sylweddoli bod gan yr Alban gomisiwn pontio teg. Nid wyf i'n credu y bydd comisiwn ynddo'i hun o reidrwydd yn ymdrin â'r holl faterion fel y byddem yn dymuno; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r hyn yr ydym ni'n dewis ei wneud. Ac o safbwynt polisi, yr wyf fi a'r Gweinidogion newid hinsawdd yn glir iawn, wrth ddymuno gweld newid i economi sero net, fod cyfleoedd gwirioneddol, ond rhaid cael pontio teg i bobl sydd mewn gwaith nawr. Nid ydym ni eisiau taflu grŵp o bobl i'r naill ochr ac anwybyddu'r sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw wrth i ni geisio creu diwydiannau newydd. Mae hynny'n arbennig o bwysig o gofio bod gennym ni brinder llafur a sgiliau, felly bydd angen i ni ddefnyddio pobl sydd eisoes â sgiliau ac yn sicr eisiau dyfodol economaidd hefyd.
Fodd bynnag, dyma pam, yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau y gwnaethom ni ei gyhoeddi yn ddiweddar, yr oeddem ni'n glir iawn mai ein nod yw rhoi mwy o'n cefnogaeth i bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Felly, nid yw'n golygu nad ydym ni'n mynd i gyrraedd ein targed prentisiaeth. Nid yw'n golygu nad ydym ni'n mynd i barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau a phobl sy'n agos at y farchnad lafur lle gallwn ni wneud gwahaniaeth. Ond, gan fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithgar mewn rhywfaint o'r maes hwnnw, rydym ni'n ceisio sicrhau bod ein hymyriadau'n cefnogi pobl sydd bellaf i ffwrdd, ac yn aml pobl ag anabledd, yn aml pobl sy'n edrych fel fi, ac yn aml menywod sydd eisiau naill ai ddychwelyd i'r gweithle neu fynd i mewn i'r gweithle am y tro cyntaf, a'r ffaith, er ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran ymdrin â'n cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru, rydym yn dal ychydig y tu ôl i gyfartaledd y DU. Felly, dyna lle'r ydym yn ceisio canolbwyntio ein sylw a'n hymdrechion, a gobeithio y bydd hynny'n helpu nid yn unig rhan o'r pontio teg i bobl sydd eisoes mewn gwaith, ond i gael pobl i mewn i waith nad ydyn nhw ar hyn o bryd.