Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 22 Mawrth 2022.
Os caf i ddechrau ar swyddogaeth cwmnïau cydweithredol, cafodd Cymru ei tharo'n wael gan y pandemig oherwydd ei thlodi incwm cymharol o'i chymharu â gwledydd eraill y DU. Gwyddom ni yr effeithiwyd fwyaf ar y cymunedau tlotaf, gyda'r rheini mewn cyflogaeth â chyflog isel ac ansicr y mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu o golli eu swyddi. Wrth i ni geisio gwella o ddifrod economaidd y pandemig, dylem ni fod yn edrych o ddifrif ar ailadeiladu'r economi mewn ffordd ystyrlon er mwyn sicrhau diogelwch, ffyniant a thegwch hirdymor i aelwydydd a gweithwyr. Rwy'n credu, ac yr wyf i'n gwybod bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn credu hefyd, fod yn rhaid i gwmnïau cydweithredol chwarae rhan ganolog yn hyn, ar flaen ein hadferiad ar ôl y pandemig. Felly, gofynnaf i i'r Gweinidog sut y mae'n rhagweld rhan mentrau cydweithredol yn y genhadaeth ailadeiladu hon i greu economi fwy ffyniannus a chadarn. Mae cwmnïau cydweithredol bron ddwywaith yn fwy tebygol o oroesi eu pum mlynedd cyntaf, o'u cymharu â mathau eraill o fusnesau. Mae'n hysbys hefyd eu bod yn dod â chynnydd mewn cynhyrchiant, hawliau gweithwyr, diogelwch swyddi a ffigurau cyflogaeth cyffredinol. Arbedodd cyfraith Marcora yr Eidal, sy'n hwyluso prynu'r cwmni gan weithwyr, fwy na 13,000 o swyddi rhwng 2007 a 2013, yn ystod y chwalfa ariannol.
Wrth edrych ar astudiaeth achos o fy rhanbarth fy hun, cafodd BIC Innovation Ltd, cwmni ymgynghori sydd â swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei gefnogi gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ailstrwythuro ar gyfer perchnogaeth y gweithwyr. Ers dod yn eiddo i weithiwr, mae'r cwmni wedi cynyddu ei weithlu bedair gwaith yn ystod y cyfnod o dair blynedd. Mae cyfarwyddwr sefydlu BIC Innovation Ltd yn credu bod y busnes, o fod yn eiddo i weithwyr, wedi denu talent newydd gyda safbwyntiau amrywiol sy'n darparu syniadau gwahanol, wedi darparu gwell gwasanaethau i gleientiaid a gwerth ychwanegol i'r brand. Byddai darparu mwy o gefnogaeth i fwy o fentrau cydweithredol yn amlwg yn caniatáu i ni wneud cynnydd, nid yn unig o ran ffigurau cyflogaeth, ond mewn gwaith teg ac ystyrlon, ac yn caniatáu i ni ddatblygu cyfoeth cymunedol fel rhan o'n hadferiad.
Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, ac yr wyf i'n llwyr gefnogi'r amcan hwn. Ond mae pwynt yr hoffwn i ei godi gyda'r Gweinidog. Mewn sesiwn graffu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda Banc Datblygu Cymru, roedd ansicrwydd ynghylch pa gyllid ychwanegol fyddai ar gael i'r banc i chwilio am fwy o achosion o weithwyr yn prynu cwmnïau. Os nad yw'r arian ychwanegol hwnnw ar gael, a yw'r Gweinidog yn ffyddiog y bydd yn cyrraedd ei nod, neu yn ei farn ef, a oes angen arian ychwanegol?
O ran amrywiaeth a thegwch, mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol nawr, wrth i ni geisio cael pobl yn ôl i gyflogaeth yn dilyn cyfyngiadau, colli swyddi a ffyrlo, y bydd pobl ifanc, menywod, pobl anabl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn wynebu anawsterau penodol wrth geisio ailymuno â'r farchnad lafur, neu wrth fynd i mewn am y tro cyntaf. O fewn y grwpiau hyn, bydd effaith tlodi, incwm isel aelwydydd a lefelau is o addysg, yn ogystal ag anfanteision eraill, yn creu heriau eraill i'r unigolion hyn.
Mae'r effaith economaidd anghymesur y mae'r pandemig wedi'i chael ar y cymunedau hyn yn dangos yn glir nad yw'r polisi presennol yn ddigon i greu economi gyfartal a ffrwythlon i bawb yng Nghymru. Felly, wrth i ni ystyried ailstrwythuro'r economi i'w gwneud yn fwy cyfartal, tybed sut y mae'r Gweinidog, fel rhan o'r genhadaeth hon, yn bwriadu ymdrin â'r materion strwythurol sydd wrth wraidd ein heconomi sydd wedi caniatáu i'r grwpiau hyn fod yn fwy agored i ddiweithdra a gwahaniaethu economaidd, ac, wrth symud ymlaen, sut y gallwn ni sicrhau bod ein heconomi'n decach.
Yn olaf, o ran economi gylchol werdd, mae'r Gweinidog wedi nodi y dylai un o ganlyniadau eraill y genhadaeth hon fod yn economi wyrddach a mwy cylchol. Gwyddom ni fod y swyddi sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau gwyrdd, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg hyn yn aml yn cael eu rheoli gan ddynion gwyn nad ydyn nhw o ddosbarth gweithiol. Beth arall a gaiff ei wneud i sicrhau nad yw'r bwlch demograffig yn y math hwn o gyflogaeth yn gwaethygu wrth i ni ailstrwythuro ein heconomi i'w gwneud yn wyrddach? Sut y gallwn ni sicrhau nad yw menywod, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, y rheini o gefndiroedd dosbarth gweithiol a grwpiau difreintiedig eraill yn cael eu hepgor o'r chwyldro gwyrdd hwn yng Nghymru?
Ac yn unol â fy thema ar degwch a gwelliannau mewn cyflogaeth, wrth i ni bwyso ar y sector gwyrdd i dyfu, unwaith eto, rwy'n gofyn a fydd y Llywodraeth yn ystyried dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban wrth sefydlu comisiwn pontio teg i oruchwylio'r newidiadau yn ein heconomi i sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Diolch.