Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae taclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ym maes addysg. Dyna'r unig ffordd y gallwn ni lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb. Wrth wireddu'r weledigaeth hon, dwi wedi ymrwymo i osgoi defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar ddiffygion; yn hytrach fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar gamau cadarnhaol i helpu i wireddu potensial pob person ifanc mewn ffordd sy’n meithrin ac yn adlewyrchu eu dyheadau.
Ers i mi ddod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, dwi hefyd wedi ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid ystyried pob polisi addysg o safbwynt a ydyn nhw'n helpu i daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Bydd angen dull system gyfan er mwyn llwyddo; dull sy'n cefnogi plant a phobl ifanc drwy bob cyfnod o'u haddysg: cyn ysgol, oedran ysgol ac ôl 16. Heddiw, fe fyddaf i'n amlinellu rhai o'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn y maes hwn, camau y byddwn ni'n adeiladu arnyn nhw yn y misoedd nesaf.
Mae tystiolaeth ymchwil ac arolygu yn dangos taw ansawdd y dysgu a'r addysgu yw'r dylanwad unigol pwysicaf ar lwyddiant dysgwyr yn ein system addysg. Mae hyn yn arbennig o wir am ein dysgwyr difreintiedig. Dwi am sicrhau ein bod ni'n dal i wella ansawdd y dysgu a'r addysgu, gan wneud hynny'n sail i gyflwyno ein cwricwlwm newydd.