Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 22 Mawrth 2022.
Fe fyddwn ni'n gweithio, Dirprwy Lywydd, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a'n sefydliadau addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer sicrhau bod priodoleddau anfantais addysgol, ac effaith hynny ar gyflawniad addysgol a sut y gellir goresgyn hynny, yn elfen amlwg o'n rhaglenni addysg gychwynnol ni ar gyfer athrawon. Fe fyddwn ni hefyd yn cynnwys hon fel nodwedd allweddol o hyfforddiant sefydlu a darpariaeth ddysgu proffesiynol.
Mae ein staff cymorth ni â rhan hollbwysig yn ein hysgolion, a llawer ohonyn nhw'n cael eu cyflogi eisoes yn benodol ar gyfer cefnogi athrawon wrth ymdrin ag effaith tlodi ar gyflawniad disgyblion. Arfer da yw hyn. I gryfhau rhagor ar allu staff cymorth addysgu i helpu i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth hon, fe fyddwn ni nid yn unig yn sicrhau eu bod nhw'n gallu manteisio ar raglenni dysgu proffesiynol cymwys, ond fe fyddwn ni'n sicrhau bod arweinwyr ysgolion yn gallu cael gafael ar ganllawiau clir ynglŷn â'r ffordd fwyaf priodol o ddefnyddio staff cymorth i helpu i oresgyn anghydraddoldebau addysgol.
Fe wyddom ni pa mor hanfodol yw'r grant datblygu disgyblion i'n hysgolion ni. Mae tystiolaeth yn dangos bod y defnydd a wneir ohono gan ysgolion wedi cynyddu dros amser ers iddo gael ei gyflwyno. Er hynny, fe wyddom ni y gellir gwneud mwy eto i dargedu'r cyllid hwn yn well. Er mai ysgolion ddylai benderfynu ar y defnydd a wneir o'r cyllid hwn yn y pen draw, mae angen i'r penderfyniadau hyn fod â dylanwadu mwy strategol arnyn nhw, wedi'u seilio yn well ar dystiolaeth ac yn cael eu monitro yn drylwyr o ran eu heffaith. Felly, fe fyddwn ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i ysgolion weithio yn agos gyda ni, gan rannu eu cynlluniau a sut y maen nhw'n bwriadu monitro effaith, a ategir gan ganllawiau pellach o ran defnydd o'r grant ar sail tystiolaeth.
Fe wyddom ni o dystiolaeth ymchwil ac arolygu mai ysgolion sy'n cyplysu dysgu ac addysgu mewn ffordd effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned yw'r rhai mwyaf effeithiol o ran goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Felly, fe fyddwn ni'n awyddus i weld ysgolion yn gweithredu fel ysgolion bro, gan ymestyn allan at rieni a gofalwyr ac ymgysylltu â'r gymuned gyfan.
Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn ni'n buddsoddi £3.84 miliwn i gynyddu nifer y swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a gyflogir gan ysgolion, gan ganolbwyntio rhan o'u gwaith ar wella cyfraddau presenoldeb disgyblion. Fe fyddwn ni'n darparu cyllid hefyd i dreialu penodi rheolwyr ysgolion bro, ac yn rhoi £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i alluogi ysgolion i ddatblygu ymhellach yn asedau cymunedol, gan wneud ysgol yn fwy hygyrch ac agored i'w chymuned leol. Fe fyddwn ni'n gweithio hefyd gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i geisio ymestyn darpariaeth cofleidiol, aml-asiantaeth i ddysgwyr yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Dirprwy Lywydd, i rai o'n pobl ifanc, maen nhw'n dyheu am astudio'r cyrsiau gorau mewn prifysgolion blaenllaw. Mae rhwydwaith Seren yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gefnogi rhai o'r bobl ifanc fwyaf disglair yng Nghymru i lwyddo yn y brifysgol. Yng ngham nesaf bywyd Seren, fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad dysgwyr o gartrefi incwm isel. Nid prifysgol yw pinacl dyhead pawb, ond ni ddylai eich gallu chi i ddringo at y pinacl hwnnw, os mai hynny rydych chi'n ei ddewis, fod yn ddibynnol ar eich man cychwyn chi. Ac ochr yn ochr â hyn, rwy'n ceisio ei gwneud hi'n haws hefyd i gael cyngor gyrfaoedd annibynnol i bobl ifanc o gartrefi incwm isel ym mlynyddoedd olaf addysg gynradd ac yn 13 ac 16 oed, fel bod y wybodaeth orau bosibl ganddyn nhw ynglŷn â'r amrywiaeth o lwybrau a all fod o'u blaenau nhw.
Ac mae arweinyddiaeth yn hanfodol yn hyn i gyd: y weledigaeth i sicrhau bod y dysgu a'r addysgu gorau ar waith, yr argyhoeddiad y dylai ysgolion weithredu fel asedau i'r cymunedau ynghyd â'r dycnwch i godi dyheadau a chefnogi dysgwyr a'u teuluoedd. Fe all arweinwyr da wneud gwahaniaeth enfawr. Fe fyddwn ni'n gofyn i'r academi arweinyddiaeth ganolbwyntio mwy ar gefnogi ein dysgwyr mwy difreintiedig i ffynnu, a gweithio gyda gwasanaethau gwella ysgolion, fe fyddwn ni'n rhoi'r dasg iddyn nhw o gefnogi arweinwyr ysgolion i gyrraedd safonau a chodi dyheadau pawb. Fe fyddwn ni hefyd yn nodi carfan o benaethiaid ac uwch arweinwyr sydd wedi cael llwyddiant parhaus o ran goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, ac fe fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw weithio gyda ni i gefnogi ysgolion ac arweinwyr eraill mewn dull cydweithrediadol.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe fydd hi'n hanfodol ein bod ni'n monitro cynnydd yn rheolaidd ar bob lefel o'r system. Fe fyddwn ni'n defnyddio ystod eang o ddangosyddion i fesur cynnydd, wrth barhau i roi pwyslais mawr ar gymwysterau. Fe fydd gan Estyn waith allweddol o ran cefnogi a monitro ein cynlluniau ni, ac fe fydd hynny'n cynnwys cynhyrchu canllawiau sy'n llywio eu gweithgarwch arolygu nhw yn y maes hwn, ac adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wneir gan ysgolion, colegau a darparwyr eraill, gan ddarparu adborth pellach ar lefel system drwy adolygiadau thematig, gan ganolbwyntio mwy ar y maes hwn wrth arolygu awdurdodau lleol a'r gwaith ymgysylltu y maen nhw'n ei wneud gyda gwasanaethau gwella ysgolion, a rhoi cymorth pellach i ysgolion.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, rwyf i wedi disgrifio rhai o'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd am ein cynnydd ni ar y daith hon gyda'r Senedd. Mae pob plentyn unigol mewn ysgol yng Nghymru yn haeddu'r gorau—y gorau o ran safonau a'r gorau o ran dyheadau. Ac nid dewis rhwng tegwch a rhagoriaeth yn ein hysgolion ni yw ystyr hynny. Dirprwy Lywydd, arwydd o gymdeithas iach yw'r gallu i gyflawni'r ddau. Rydym ni'n awyddus i ysgolion gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, ac fe fydd y camau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn i wneud hynny.