Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf i o'r farn nad yw hi'n gyfrinach ac mae llawer yn gwybod yn iawn yn y fan hon fy mod yn anghytuno yn llwyr â Deddf plant (Cymru) ac rwyf i'n condemnio, mewn gwirionedd, unrhyw ymgais i flaenoriaethu troseddoli rhieni da, cariadus a gofalgar. Gyda'r Ddeddf hon, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ymestyn ymhellach fyth i fywydau preifat teuluoedd, gan greu gwladwriaeth nani, lle mae Llywodraeth Cymru yn credu mai hi sy'n gwybod orau am amddiffyn a diogelu ein plant ni.
Roedd y memorandwm esboniadol yn nodi y byddai'r opsiwn a ffefrir i
'Deddfu i gael gwared ag amddiffyniad cosb resymol yng
Nghymru' yn costio cyfanswm o rhwng £6 miliwn ac £8 miliwn i'n trethdalwyr. Onid yw hi'n drueni, pan nad yw plant yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol, pan na allan nhw gael defnydd o wasanaethau iechyd meddwl, fod cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn cael ei ystyried yn beth mor bwysig mewn gwirionedd? Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario ychydig o dan £1.7 miliwn yn barod. Er hynny, mae hi'n ymddangos bod costau yn cynyddu fwyfwy. Roedd dogfennau ategol y Bil yn cynnwys cyllid ar gyfer cynllun cymorth y tu allan i'r llys ar gyfer magu plant, i'w ddefnyddio pan yr oedd yr heddlu yn penderfynu ei bod hi'n fwy priodol gwneud felly, ac rwyf i'n gallu dweud wrthych chi fod gennym ni blant yn lleol sy'n syrthio drwy'r rhwyd ddiogelu oherwydd nad yw'r adnoddau gan ein hadrannau ni nawr, Dirprwy Weinidog, felly, fe fydd hyn yn cynyddu'r pwysau arnyn nhw.
Fe ddyrannwyd rhwng £162,000 a £473,000 y flwyddyn ar gyfer y cynllun i ddechrau, ond mae'r dyraniad yng nghyllideb ddrafft 2022-23 bron ddwywaith cymaint â hynny erbyn hyn. Mewn ymdrech i gyfiawnhau dyblu'r costau hyn, roeddech chi'n dweud wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n dyfynnu:
'Pan wnaethom ni nodi swm o arian ar gyfer y cynllun hwn, cafodd hynny ei wneud cyn gwneud y gwaith manwl a wnaethpwyd oddi ar hynny.'
Heddiw, rydym ni'n dysgu bod y gyllideb wedi neidio o £473,000 y flwyddyn i £2.4 miliwn erbyn hyn—