Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Os byddwch chi'n dilyn rhesymeg y Ceidwadwyr, yna nid oes angen unrhyw gyfreithiau arnom o gwbl. Rwy'n anghytuno â hynny, ac rwy'n credu os oes gennym ni ddeddfau i amddiffyn oedolion, yna dylem ni gael deddfau i amddiffyn plant, ac rwy'n falch o allu nodi bod cosbi plant yn gorfforol bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru ar ôl i'r gyfraith newydd ddod i rym ddoe. Ac wedi'r cyfan, roeddech chi'n iawn, Dirprwy Weinidog, i bwysleisio hawliau'r plentyn. Mae hyn yn ei gwneud yn glir bod plant—[Torri ar draws.]
Rwy'n credu nad ydych chi'n deall, a bod yn onest. Rwy'n gwybod eich bod chi'n heclo yma, ond nid yw hyn yn ymwneud â pheidio â deall; mae'n ymwneud â hawliau'r plentyn. Ac, mewn gwirionedd, os ydych chi'n siarad â phlentyn neu os ydych chi wedi siarad â phlant, fel yr wyf i wedi ei wneud yn ystod ymweliadau ysgol—[Torri ar draws.] Ac rwy'n gwybod bod gennych chi blant, ond os byddwch chi'n siarad â'r plant hynny, fel yr wyf i wedi ei wneud yn ddiweddar, maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd fod hon yn dod i rym. Maen nhw'n ei chroesawu. Rwy'n credu bod yn rhaid croesawu unrhyw gynnydd mewn ymwybyddiaeth bod gan blentyn hawliau. Ac rwy'n credu bod yr holl ymgyrchoedd gwybodaeth yn sicr yn cyrraedd plant a'u bod yn gwybod bod ganddyn nhw hawliau o'r diwedd, ac nid yw hynny'n wir ym mhob man yn y byd. Ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith bod hyn yn hanesyddol ac yn iawn yng Nghymru, a bod hon yn foment bwysig. Ac mewn gwirionedd, mae'n synnwyr cyffredin y dylai plant gael yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Nhw yw aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas ac maen nhw'n haeddu hawliau cyfartal yn hyn o beth.
Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, mae'r gyfraith bellach yn glir. Mae'n ei gwneud yn haws i blant, pobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ddeall, a bydd yn cyfrannu at y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn cael byw'r bywyd y maen nhw'n dymuno ei fyw.
Ac i gael hyn allan o'r ffordd, os caf herio honiad y Ceidwadwyr y bydd y Ddeddf yn arwain at ddiwylliant Stasi—pethau yr ydym ni wedi eu gweld yn y wasg. Mae hyn nid yn unig yn hurt ac yn hanesyddol anwybodus, ond mae hefyd yn sarhaus i ddioddefwyr cyfundrefn y Stasi a'r rhai sy'n byw mewn cyfundrefnau gormesol ledled y byd heddiw. Mae cymharu mesur amddiffynnol a gynlluniwyd i gynnal hawliau ein dinasyddion mwyaf agored i niwed â thactegau gormesol gwladwriaeth heddlu cyfnod y rhyfel oer yn annealladwy, ac nid yw hyn yn haeddu trafodaeth bellach mewn gwirionedd.
Felly, o ran y Ddeddf, mae'r heddlu a phrif erlynydd y goron yng Nghymru wedi datgan y byddai nifer y bobl sy'n cael eu cyhuddo neu eu herlyn yn isel iawn, rhywbeth yr ydym yn gwybod ei fod yn heriol iawn, gyda thrais yn erbyn menywod ac yn y blaen. Felly, yn yr un modd, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ailadrodd beth yw diben canolog y ddeddfwriaeth hon, a sut y caiff ei gorfodi? Ac mae'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen sy'n gyfrifol am amddiffyn plant, gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y gwasanaethau cymdeithasol ac ati wedi datgan y bydd y Ddeddf hon yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru oherwydd bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach.
Rydym ni wedi clywed, yn amlwg, rywfaint o wrthwynebiad i'r Ddeddf gan Aelodau heddiw, ond maen nhw mewn lleiafrif, yn ffodus. Ac rwy'n credu pan edrychwch chi ar bobl yn ceisio cyfiawnhau dulliau traddodiadol o fagu plant, wel maen nhw wedi dyddio erbyn hyn, ac mae angen i ni anfon y neges glir honno i'n plant a'n pobl ifanc ac i rieni ym mhob man.
Dywedodd Claire Campbell-Adams o'r blog Mum's Shoulders ei bod yn wych bod y gwaharddiad yn cau bwlch, ond nododd ei phryder y gallai ei gwneud yn anoddach i rieni sydd angen cymorth i fynegi eu hunain, felly rwy'n croesawu'r ymrwymiad gyda'r cyllid hwnnw ac ati. Ond tybed a allech chi, efallai, ymhelaethu ymhellach ar sut y gallwn ni annog pobl y mae angen cymorth arnyn nhw i gael gafael ar y cymorth hwnnw, fel nad yw'n rhywbeth cudd, ein bod ni'n sicrhau eu bod yn cael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael.
Hoffwn gloi trwy ddweud cymaint yr ydym yn llwyr gefnogi hyn ym Mhlaid Cymru. Mae'n foment hanesyddol, mae i'w chroesawu, ac mae'n hen bryd cydnabod hawliau'r plentyn fel hyn.