Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 22 Mawrth 2022.
Mae ein pwynt rhinwedd olaf, Weinidog—ac fel dywedais i, doedd dim angen ymateb i'r pwynt yma—yn nodi, yn syml, y bydd y cynllun a bennir yn y rheoliadau yn debygol o arwain at gynnydd yn refeniw yr awdurdodau bilio trwy ddarparu gwasanaethau sy’n dod o dan ffi’r dreth gyngor. Mae'r rheoliadau’n rhagnodi drwy welliant y mecanwaith o gynyddu'r ffi honno, yn ôl disgresiwn pob awdurdod bilio.
Felly, dyna sylwadau'r pwyllgor cyfansoddiad. Diolch yn fawr i chi, Weinidog.