Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae Fforwm Llifogydd yr Alban yn elusen a sefydlwyd yn 2009, ac fe'i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth yr Alban, gan dderbyn £200,000 y flwyddyn, gyda rhoddion ychwanegol a grantiau bach eraill. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth yr Alban cyn mynd ymlaen i fod yn elusen—model y gallem ei efelychu yng Nghymru. Mae'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau sy'n wynebu perygl llifogydd i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u deall fel rhan o'r cynlluniau lliniaru llifogydd ac ymatebion adfer wedi llifogydd—cam hanfodol i sicrhau nad yw llifogydd mor drawmatig a difrifol i lawer ag y mae ar hyn o bryd. Rhoddir cymorth a chyngor i gymunedau lleol lle bo angen i helpu i reoli'r perygl o lifogydd, ac mae'r fforwm hefyd yn eirioli ar eu rhan. Maent yn darparu cyngor a gwasanaethau annibynnol, ac maent yn gallu darparu cymorth mwy datganoledig a lleol i'r rhai sydd ei angen. Maent hefyd yn rhoi canllawiau llifogydd i gymunedau lleol ac yn rhoi cyngor ar yswiriant ac adfer wedi llifogydd. Mae hyn yn rhywbeth sydd ar goll yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid oes gennym unrhyw ganllawiau swyddogol ar gyfer rhai sy'n wynebu perygl llifogydd ac sy'n dymuno diogelu eu heiddo. Mae ganddynt hefyd system rybuddio fyw ar waith drwy Twitter, ac er bod hon yn debyg i system rybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n ymddangos ei bod yn fwy effeithiol. Maent hyd yn oed yn gweithio gyda chymunedau i osod systemau rhybudd rhag llifogydd hyperleol, gan rymuso cymunedau i gymryd rhan uniongyrchol mewn cynlluniau o'r fath.
Deilliodd Fforwm Llifogydd yr Alban o'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, a sefydlwyd fel elusen yn 2002. Er mai Llywodraeth y DU oedd yn ei ariannu'n wreiddiol, caiff ei ariannu erbyn hyn drwy godi arian a rhoddion gan y cyhoedd. Er eu bod yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr, mewn gwirionedd mae eu hymwneud â Chymru yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd ac mae'n dibynnu ar bocedi o gyllid iddynt allu gwneud rhywfaint o waith penodol. O ganlyniad, maent yn gweithio yn Lloegr yn bennaf, ac mae eu hadnoddau ar gael yn Saesneg yn unig. Os edrychwch ar eu cyfryngau cymdeithasol, fe welwch sut y maent yn ymweld â chymunedau sydd wedi dioddef llifogydd gyda'u cerbyd adfer i gynnig cymorth a chyngor yn uniongyrchol i drigolion a busnesau yn dilyn llifogydd. Eu prif ffocws yw cynorthwyo unigolion yr effeithiwyd arnynt, ac maent hefyd yn helpu i lywio deddfwriaeth sy'n ymwneud â llifogydd. Maent yn darparu gwybodaeth glir a gwasanaethau i ddioddefwyr llifogydd ac maent wedi lansio gwefan, ynghyd â chyfrif Twitter, yn ogystal â llinell rybuddion llifogydd 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i bobl allu cysylltu mewn argyfwng, yn ogystal â darparu cyngor annibynnol ynghylch amddiffyn rhag llifogydd ac yswiriant. Maent yn gweithio law yn llaw â Flood Re i roi cyngor ar yswiriant i'r rhai sy'n byw mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd.
Lle y cawsant eu hariannu i weithio yng Nghymru, mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt. Ac er y gallem ariannu'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i ehangu ei waith yma yng Nghymru, os edrychwch ar y manteision a gafwyd yn yr Alban o gael fforwm llifogydd ar gyfer yr Alban, credaf eu bod yn cefnogi'r angen i gael un yng Nghymru. Yn wir, os edrychwch ar y model, mae Fforwm Llifogydd yr Alban a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, ac mae gan y ddau fforwm gynrychiolydd ar fyrddau ei gilydd. Rwyf wedi siarad â phobl sy'n gysylltiedig â'r ddau ac maent yn cytuno y byddai Cymru'n elwa'n fawr o gael fforwm llifogydd penodol a allai hefyd weithio ar y cyd â hwy. Nawr, gwn fod arian yn gyfyngedig, ond mae profiadau cymunedau sydd mewn perygl yng Nghymru a'r Alban yn dangos gwerth arfogi cymunedau i ymdopi ag effeithiau a bygythiadau llifogydd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ac y dylem ei wella yma yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nid yw pobl yn ein cymunedau sydd mewn perygl yn siŵr pwy y gallant gysylltu â hwy am gyngor a chymorth mewn perthynas â lleihau perygl llifogydd i'w cartref neu eu busnes. Ac fel y soniais, mae llawer yn dweud yn agored nad oes ganddynt hyder y gall awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni rôl o'r fath, yn enwedig pan fydd y sefydliadau hynny'n cael eu llethu gan y galw am gymorth pan fo llifogydd yn taro, yn enwedig gydag adfer wedyn. Byddai fforwm llifogydd cenedlaethol yma yng Nghymru yn golygu y byddai gennym well dealltwriaeth ynghylch pam fod llifogydd yn dechrau a beth y gellir ei wneud i gefnogi a helpu cymunedau lleol. Mae lleisiau a phrofiadau'r rhai sy'n byw mewn cymunedau sydd mewn perygl yn ffactor pwysig i allu deall pam fod llifogydd mor ddifrifol mewn rhai ardaloedd, ac eto mae hyn yn rhywbeth y mae llywodraeth leol yn aml yn ei anwybyddu. Hefyd, mae angen ystyried y gefnogaeth leol. Mae llawer o unigolion sy'n dioddef llifogydd mewn cymuned yn rhoi ac yn derbyn cymorth emosiynol. Fel y dywedais, mae llifogydd yn ddigwyddiad trawmatig dros ben, a bydd llawer yn ei chael yn anodd ymdopi â'r canlyniadau. Drwy gael y cymorth yno i'w helpu, fe allant wella.