Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 23 Mawrth 2022.
Pam mae angen fforwm o'r fath? Yn Lloegr a'r Alban mae fforymau llifogydd sefydledig sy'n cefnogi ac yn cynnig cymorth ymarferol i'r rhai sydd ei angen. Tra bod peth cefnogaeth ar gael yng Nghymru—peth drwy rai cynghorau sir neu drwy Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drwy'r National Flood Forum os yw'n cael ei ariannu i weithio mewn ardal—teg dweud mai eithaf ad hoc ac anghyson yw hyn ar y funud. Ac nid beirniadaeth mo hyn ar gynghorau lleol na chwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi eu llethu gan y dyletswyddau statudol sydd ganddynt o ran llifogydd. A hyd yn oed pe bai ganddynt y capasiti i wneud mwy i gefnogi cymunedau, rhaid gofyn os mai hwy ddylai fod yn darparu hyn, gan fod cymunedau yn aml yn gweld bai arnynt os yw llifogydd yn digwydd. Yn wir, hyd yn oed pan fydd cynghorau neu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio cyflawni rôl gyffelyb i'r National Flood Forum yng Nghymru, mae cymunedau yn aml wedi bod yn amheus ohonynt gan nad ydynt yn eu hystyried yn ddiduedd. Gadewch i ni edrych, felly, ar beth mae fforwm llifogydd yr Alban a National Flood Forum Lloegr yn ei wneud, a pham wyf fi'n credu bod gwerth efelychu hyn yng Nghymru.