Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Edrychaf ymlaen heddiw, gobeithio, at argyhoeddi'r Senedd o fanteision sefydlu fforwm llifogydd i Gymru. Mae John Griffiths, Delyth Jewell a Llyr Gruffydd wedi gofyn am funud o amser yr un fel rhan o'r ddadl, a byddaf yn sicrhau bod amser iddynt gyfrannu ar ddiwedd fy araith heddiw.
Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi dioddef llifogydd neu sydd wedi ymweld ag unrhyw eiddo neu gymuned sydd wedi dioddef llifogydd, mae'n brofiad ysgytwol. Heb weld yr effaith gyda'ch llygaid eich hun, mae'n amhosib dirnad maint y dinistr a sut mae'r dŵr budr yn treiddio mewn i bopeth. Hyd yn oed gydag yswiriant, gall gymryd misoedd ac weithiau blynyddoedd i gael trefn unwaith eto ar eiddo, ond, wrth gwrs, erys bod rhai pethau o bwys wedi eu colli am byth, megis lluniau neu bapurau personol. Wnaf i fyth anghofio, yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, ymweld â thŷ lle'r oedd dau berson oedrannus yn eu dagrau gan fod yr holl luniau o'u merch, a fu farw yn ei thridegau, wedi eu dinistrio yn y llifogydd. Roeddynt dramor pan darodd y llifogydd heb unrhyw fodd symud unrhyw beth i fan diogel. Does dim geiriau o gysur yn bosib mewn sefyllfa o'r fath.
Mae'r effaith seicolegol hefyd yn rhywbeth sydd yn para am flynyddoedd wedi llifogydd. Rwyf yn cyfarfod yn gyson â phobl yn fy rhanbarth sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi a'u busnesau, ac mae'n amlwg hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach eu bod yn dioddef trawma parhaus. Bob tro mae'n bwrw glaw yn drwm, dydyn nhw ddim yn cysgu. Maen nhw'n gwylio'r glaw, gwylio'r afon, gwylio draeniau a chwlferi, yn ofni bod y gwaethaf am ddigwydd unwaith eto. Dywed nifer hefyd fod eu plant yn dioddef hunllefau cyson. Ar ben hyn i gyd, mae nifer yn cael trafferth cael yswiriant, gan olygu eu bod hefyd yn dioddef poen meddwl o ran yr effaith ariannol pe byddai'r gwaethaf yn digwydd eto. Rhaid cofio hefyd am y rhai sy'n methu â fforddio yswiriant—rhywbeth sydd yn siŵr o fynd yn waeth yn sgil yr argyfwng costau byw.