1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 23 Mawrth 2022.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, ddoe, codais fater taflen wybodaeth prifddinas-ranbarth Caerdydd gyda chi, sy'n brolio am gyfraddau cyflog cymharol isel, ac sy'n disgrifio Caerdydd fel man lle mae cyflogau graddedigion yn is nag yn Birmingham, Llundain, Caeredin neu Glasgow. Nid yw’n syndod fod Nerys Lloyd-Pierce, cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, wedi labelu ymagwedd prifddinas-ranbarth Caerdydd fel strategaeth ddinistriol a fyddai’n gwthio talent ifanc ymaith yn ne-ddwyrain Cymru. Ac mae ysgrifennydd cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru, Shavanah Taj, wedi dweud bod hon yn ymagwedd ddigalon a chynhennus sy'n creu perygl o gaethiwo nifer o'r cymunedau ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd mewn economi cyflogau isel. Weinidog, o gofio eich bod wedi dweud o’r blaen nad oes yn rhaid ichi adael Cymru er mwyn llwyddo, a wnewch chi ddweud wrthym sut y mae strategaeth farchnata prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â dull Llywodraeth Cymru o gadw graddedigion?
Wel, ni chredaf ei bod yn deg dweud bod y brifddinas-ranbarth yn ceisio cadw cyflogau graddedigion yn isel. Mewn gwirionedd, uchelgais y brifddinas-ranbarth, sy’n cynnwys partneriaeth rhwng 10 awdurdod lleol, fel y gwyddoch, a chanddynt arweinwyr o wahanol bleidiau gwleidyddol, a Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw ysgogi a sicrhau twf pellach, gwella cynhyrchiant, a chodi cyflogau ar draws y rhanbarth. Dyna pam y ceir y sgyrsiau hyn ynglŷn â beth a all ddigwydd yn y brifddinas, yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd y tu allan i Gaerdydd—boed yn Aberddawan neu o ran yr hyn y dymunwn ei weld i wella perfformiad economaidd a chanlyniadau i bobl y Cymoedd hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â cheisio codi'r safon a sicrhau cynnydd a gwelliant pellach mewn cyflogau, gan gynnwys i raddedigion.
Wel, rwy'n gobeithio y byddwch yn condemnio’r daflen wybodaeth hon, Weinidog, gan ei bod yn hollbwysig nad yw Cymru’n cael ei marchnata i fuddsoddwyr allanol fel economi cyflogau isel, ac yn sicr, nid yw’r iaith hon yn gwneud unrhyw beth i gadw graddedigion sy’n teimlo bod yn rhaid iddynt adael Cymru er mwyn llwyddo mewn bywyd. Nawr, wrth gwrs, wrth inni ddatblygu economi Cymru ar ôl y pandemig, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn harneisio'r sgiliau unigryw a'r sectorau sy'n gysylltiedig ag ardaloedd lleol. Ac un ffordd o wneud hynny yw drwy ardaloedd menter. Mae'n hanfodol fod yr ardaloedd menter wedi'u halinio â'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn y fframweithiau economaidd rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol a gwerth am arian drwy'r ardaloedd menter. Weinidog, deallaf fod ardaloedd menter wedi bod drwy gyfnod o adolygu helaeth wedi’i lywio gan drafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol, ac yn adeiladu ar yr adolygiad cynharach a gynhaliwyd yn 2018, yn ôl datganiad ysgrifenedig diweddar a gyhoeddwyd gennych. A wnewch chi ddweud wrthym, felly, beth yw canlyniadau’r adolygiad hwnnw, ac a wnewch chi gadarnhau heddiw hefyd sut yr ydych yn sicrhau bod pob un o’r ardaloedd menter yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?
Wel, rydych chi'n iawn i ddweud bod angen i'n strategaeth ardaloedd menter sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r gwaith ehangach a wnawn gyda phartneriaid. A dweud y gwir, credaf mai cryfder yw'r ffaith y gallwn gynnal sgwrs ar y cyd, lle mae gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y grwpiau rhanbarthol a'r sefydliadau busnes hynny un llais, ac mae'n ddiddorol fod y cynnig unedig a chydlynol hwnnw'n rhywbeth deniadol iawn i nifer o bobl, ar gyfer twf o fewn y DU yn ogystal â’r potensial mewnfuddsoddi.
Mae'r tair ardal fenter sy’n parhau, sy’n seiliedig ar dair ardal borthladd bosibl yng Nghastell-nedd Port Talbot, o amgylch sir Benfro, ac yn wir, yn y gogledd o amgylch Caergybi, yn meddu ar dair cenhadaeth wahanol a allai ategu ei gilydd, ac maent yn sicr yn ategu'r dyheadau a geir ym mhob un o’r fframweithiau economaidd rhanbarthol. A dyna sut y bwriadwn sicrhau bod gennym ddull cydategol o weithredu, yn hytrach na dull cystadleuol neu wrthgyferbyniol rhwng yr hyn y mae'r ardaloedd menter yn ei wneud a'u dyheadau yn y rhanbarthau hynny. Gallaf roi sicrwydd ychwanegol i’r Aelod, gan imi gyfarfod â thri chadeirydd yr ardaloedd menter sy’n parhau, ac roedd hyn yn rhan o’r drafodaeth a gawsom.
Wrth gwrs, Weinidog, mae’n hanfodol fod yr ardaloedd menter, prifddinas-ranbarth Caerdydd, y partneriaethau sgiliau rhanbarthol a fforymau allweddol eraill yn cydweithio’n effeithiol, ac y gallwn weld canlyniadau clir a gwerth am arian yn deillio ohonynt. Mae fframweithiau economaidd rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn bwysig ar gyfer datblygu dulliau datblygu economaidd sy’n seiliedig ar leoedd, a marchnata manteision unigryw pob un o’n rhanbarthau. Wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn gallu gweld sut y mae'r fframweithiau hyn nid yn unig yn gwella ffyniant ym mhob rhanbarth, ond hefyd, sut y maent yn mynd i'r afael â rhai o'r materion strwythurol dwfn sydd wedi bod yn bla ar rai cymunedau yng Nghymru ers llawer gormod o amser. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym pa ddangosyddion perfformiad allweddol a gaiff eu defnyddio i nodi pa mor effeithiol yw’r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn ymarferol? A wnewch chi ddweud wrthym hefyd sut y byddwch yn sicrhau nad yw’r fframweithiau hyn yn arwain at fiwrocratiaeth a dyblygu pellach, ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i ddarparu diweddariad blynyddol ar ganlyniadau pob un o’r fframweithiau hyn, er mwyn i’r Aelodau allu pennu eu heffeithiolrwydd?
Wel, mae’r fframweithiau economaidd rhanbarthol yn nodi sut y mae'r partneriaid yn mynd i gydweithio a’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn gwelliannau yn y rhanbarthau hynny. Ac ni chânt eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru—ddim o gwbl. Mae’n waith ar y cyd a wnaed rhwng y rhanbarthau economaidd hynny, rhwng y gwahanol bartneriaethau sy’n bodoli gyda’i gilydd yng Nghymru, ac ym mhob un ohonynt, cafwyd lefel wahanol o arweinyddiaeth wleidyddol ym mhob rhanbarth gydag awdurdodau lleol, ond mae pob un ohonynt wedi cydnabod y gallant elwa mwy drwy gydweithio a thrwy gael syniad o flaenoriaethau. Ac mae’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn yr un ardaloedd yn helpu i wneud hynny mewn ffordd sy’n gyson yn fy marn i, ac sy’n ychwanegu gwerth ar y ddwy ochr.
Ar gyfer pob un o'r rhanbarthau, byddwch yn gallu gweld nid yn unig y meysydd blaenoriaeth, ond i ba raddau y gwnawn gynnydd ym mhob un o'r meysydd hynny wrth inni fynd drwy bob blwyddyn. Nid wyf yn siŵr mai adroddiad blynyddol gennyf fi yw’r ffordd gywir o'i wneud o reidrwydd, ond rhwng Llywodraeth Cymru a phob un o’r rhanbarthau economaidd hynny, credaf y byddai’n ddefnyddiol gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sail y gellid ei rhannu, gan fod hyn yn rhan o'r her, onid yw—yn aml, mae galw ar y Gweinidog i wneud popeth, ac yn y maes hwn, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a'r pwerau sydd ganddynt, ac mewn gwirionedd, mae a wnelo â Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth fwy cydlynol ac effeithiol yn y maes yn hytrach na chyfarwyddo popeth. Rwy'n fwy na pharod i drafod gyda phob un o’r rhanbarthau hynny sut y darparwn ddiweddariad rheolaidd fel bod y bobl y mae'r awdurdodau lleol yn atebol iddynt, sy’n amlwg yn bwnc sydd ar feddwl pawb o ystyried yr etholiadau ddechrau mis Mai, ynghyd â'r Llywodraeth, yn gwybod beth a wnawn ar y cyd i wella ffyniant economaidd ac i sicrhau y gallwch weld y math o gynnydd a wnawn.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, gwrandewais â chryn ddiddordeb ar eich ymateb i Paul Davies, ddoe a heddiw, ar frolio cwbl warthus prifddinas-ranbarth Caerdydd fod cyflogau graddedigion yn gymharol is yng Nghaerdydd o gymharu â chymheiriaid mewn mannau eraill yn y DU. Er eu bod i fod i ddenu mewnfuddsoddwyr i'r rhanbarth, mae'r sylwadau hyn yn sarhau ein talent ifanc, gan eu trin fel dim mwy nag adnodd rhad. Rhaid ystyried graddedigion Cymru fel mwy na llafur rhad os am fynd i'r afael â draen dawn Cymru. Sylwais hefyd nad ymatebodd y Gweinidog i alwadau Paul Davies yn ei ail gwestiwn i gondemnio’r hyn a oedd yn y prosbectws ynglŷn â chyflogau. Felly, tybed a yw'r Gweinidog o'r farn fod rhethreg o'r fath gan brifddinas-ranbarth Caerdydd yn briodol, ac a yw'n credu mai hyrwyddo economi cyflogau isel yw'r ffordd orau o hybu economi Cymru.
Wel, ni chredaf fod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo economi cyflogau isel drwy'r hyn a ddywedant. Nid wyf wedi darllen yr union destun yn y daflen wybodaeth, felly nid wyf am ddweud fy mod yn llwyr gymeradwyo na chondemnio'r hyn sydd ynddi. O fy sgyrsiau â gwahanol arweinwyr y rhanbarth, rwy'n gwybod nad ydynt yn bwriadu hyrwyddo’r rhan hon o Gymru fel ardal llafur rhad. Maent yn cydnabod bod yno sgiliau sylweddol. Mae gennym lawer o raddedigion yn dod o'r prifysgolion, ac mae hynny'n ddeniadol iawn i amrywiaeth o fusnesau sydd yma eisoes yn ogystal â phobl a allai fod yn awyddus i fuddsoddi yn y rhan benodol hon o Gymru. Mae'r ffaith bod yno economi sy'n tyfu, y ffaith bod llawer o sgiliau graddedigion—a dyma'r sgiliau y mae pobl yn chwilio amdanynt—yn ddeniadol.
Y nod yn y pen draw yw gwella canlyniadau economaidd pobl, gweld cyflogau’n codi, ac mae hynny’n arbennig o bwysig o ystyried yr argyfwng costau byw yr ydym yn dal i fynd drwyddo. Felly, o ran y ffordd y'i cyflwynwyd i mi, yn sicr, nid dyna’r ffordd y byddwn i'n cyflwyno’r cynlluniau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd, ond nid wyf yn gwbl siŵr ei fod yn crisialu'n ffyddlon a theg y ffordd y mae'r brifddinas-ranbarth eu hunain yn ceisio marchnata'r cyfleoedd i wella cynhyrchiant a thwf cyflogau yma yn y brifddinas-ranbarth.
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ei chael hi'n anodd derbyn nad yw prifddinas-ranbarth Caerdydd yn hyrwyddo cyflogau isel, ac wrth gwrs, yr esboniad a roddwyd gennych ddoe hefyd mewn ymateb i Paul Davies fod y ffordd yr adroddwyd ar y mater wedi'i gamliwio, maddeuwch i mi am ddweud fy mod yn credu nad yw hyn yn ddim byd mwy na thipyn o sbin. Fe ddarllenaf yn uniongyrchol o'r prosbectws:
'Rydym yn gystadleuol. Mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn darparu manteision cost clir gyda chostau gweithredu sylweddol is o’u cymharu â dinasoedd mawr eraill y DU. Gyda sicrwydd gweithlu mawr a medrus, mae gan y rhanbarth gynnig hynod ddeniadol.'
Mae'n mynd ymlaen i sôn am gyflogau.
'Mae ein gweithlu yn iau o lawer na chyfartaledd y DU, yn addysgedig ac yn amrywiol, wedi'i gefnogi gan dair prifysgol uchel eu parch. Mae costau cyflogau ar draws y rhanbarth yn gystadleuol iawn.'
Ac mae'n mynd rhagddo i restru'r cyflogau fesul dinas, gyda Chaerdydd ar y gwaelod, wedi'i huwcholeuo. Mae’n mynd rhagddo wedyn i ddisgrifio Caerdydd fel lleoliad risg isel, gwobr uchel sy’n darparu manteision amlwg o ran costau o gymharu â dinasoedd mawr eraill y DU. Credaf fod hynny'n eithaf clir.
A'r gwir amdani yw nad dyma'r tro cyntaf i rywbeth fel hyn ddigwydd. Cofiaf fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, yn codi mater bron yn union yr un fath yn 2019, pan nododd Masnach a Buddsoddi Cymru fod y ffaith bod costau cyflogau 30 y cant yn is yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o’r DU yn rheswm dros fuddsoddi yng Nghymru. Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud bod hyn—
Mae angen ichi ofyn y cwestiwn yn awr.
—yn adlewyrchu’r duedd barhaus lle mae cyflogau yng Nghymru wedi aros yn eu hunfan ers llawer gormod o amser o dan Lywodraethau Llafur olynol. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei gyfnod yn y portffolio, yn mynd yn groes i’r duedd hon, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Ond sut y mae'n argymell y dylem fynd i'r afael â'r draen dawn pan fo cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo economi cyflogau isel, a sut y gallwn fesur ei lwyddiant? Oherwydd yn sicr, nid wyf i'n dymuno dod yn ôl at y Gweinidog i dynnu sylw at hyn eto, a byddwn yn gobeithio na fydd angen i unrhyw un o fy olynwyr wneud hynny ychwaith.
Wel, edrychwch, pan fyddwch yn meddwl am yr hyn yr ydych newydd ei ddarllen, nid yw'n dweud, 'Rydym yn marchnata'r brifddinas-ranbarth fel economi cyflogau isel.' Mae'n ymwneud â'r dyheadau hefyd. Pan edrychwch ar y fframwaith economaidd ehangach, maent yn glir iawn yno eu bod am weld dewisiadau buddsoddi sy'n helpu i dyfu busnesau a thyfu cyflogau. Ac ystyriwch hefyd yr hyn sy'n cael ei ddweud am werth tir. A dweud y gwir, mae gwerth tir yn fater pwysig iawn i fusnesau sy'n ystyried buddsoddi, yn ogystal â'r sgiliau mewn poblogaeth. Pan gyfarfûm yn ddiweddar â mewnfuddsoddwyr eraill, eu diddordeb pennaf oedd sgiliau’r boblogaeth a graddedigion y dyfodol—roedd ganddynt ddiddordeb yng ngweithlu'r dyfodol. Felly, mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn sgiliau ein poblogaeth. Mae'n ymwneud â buddsoddi mewn meysydd lle y gwyddom fod gennym gryfderau. Nid wyf yn derbyn bod y brifddinas-ranbarth yn cael ei marchnata fel ardal lle mae'r cyflogau'n isel a bod cyflogau i'w cadw'n isel. Mae’n ymwneud â sut rydym yn sicrhau bod gennym fanteision i’r brifddinas-ranbarth, yn enwedig gyda’r boblogaeth iau, sy’n fantais wirioneddol i amryw o gyflogwyr hefyd, ond lefelau uchel o sgiliau a photensial gwirioneddol i dyfu cyflogau, sef yr hyn rwyf am ei weld, ac yn sicr, dyma y mae'r brifddinas-ranbarth am ei weld hefyd.