1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? OQ57817
Ar 8 Mawrth, lansiais y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ac fe fyddwch yn cofio imi wneud datganiad llafar yn y Siambr hon hefyd, lle y cawsoch gyfle i ofyn cwestiynau. Amlinellais ein blaenoriaethau i helpu mwy o bobl yng Nghymru i uwchsgilio, i gael gwaith, ac i ffynnu mewn gwaith, gobeithio, er mwyn cael economi fwy cyfartal sy’n gweithio i bawb.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, mae cynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu addysg oedolion a dysgu gydol oes a gwella ansawdd a mynediad at ddysgu ffurfiol ac anffurfiol i oedolion sy’n seiliedig ar sgiliau, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, y gall cyrsiau byrrach fod yn fwy effeithiol na llwybrau eraill weithiau am gau bylchau sgiliau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pryd y bydd yr adolygiad o addysg oedolion a dysgu gydol oes yn cael ei gynnal, ac a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch fel Gweinidog yr economi â darparwyr sgiliau ynglŷn â sut y gellir cryfhau’r sector addysg oedolion a dysgu gydol oes yn y dyfodol?
Mae heriau yn y maes hwn rwy'n eu trafod â’r Gweinidog addysg a dysgu gydol oes, a’n hymgysylltiad ar y cyd â’r sector addysg bellach yn arbennig. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae cyllid yn dal i fod yn amhendant—ac rydym wedi cael y drafodaeth hon fwy nag unwaith am allu pobl i wneud gwaith crefftus—ac nid oes arian digonol yn cael ei ddarparu yn lle cronfeydd yr EU. Bydd y Gweinidog addysg a dysgu gydol oes yn darparu mwy o fanylion am gwblhau’r adolygiad o addysg oedolion a dysgu gydol oes, ond credaf y gellir gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy'r ffordd y lluniwyd ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, gyda’r blaenoriaethau a nodwyd gennym ynglŷn â phwy y dymunwn wneud y buddsoddiad hwnnw ynddynt er mwyn sicrhau y gall pobl ddychwelyd i’r farchnad lafur neu ddod yn nes at y farchnad lafur, a bydd hynny’n ymwneud â deall anghenion unigol pobl, nid cael un dull sy'n addas i bawb. Felly, rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod ddiddordeb pan fydd gennym fwy o fanylion yn y dyfodol agos.
Weinidog, mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn y Rhondda wedi cael eu siomi gan Lywodraethau Torïaidd olynol yn San Steffan. Dro ar ôl tro, rydym wedi colli cyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i'w penderfyniadau. Collodd ein cyndeidiau eu diwydiant. Yn fwy diweddar, rydym wedi colli’r swyddfa dreth, swyddi’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r llysoedd lleol. Rydym wedi colli heddlu ar ein strydoedd, ymhlith swyddi eraill yn y sector cyhoeddus, diolch i gyni'r Torïaid, ac yn awr, mae Boris yn dymuno twyllo Cymru allan o £1 biliwn. Oni bai am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau fel E-Cycle a Flowtech, busnesau lleol yng nghanol ein trefi yn Nhreorci a Glynrhedynog, a mentrau fel y Big Shed yn Nhonypandy, yr hyb gweithio o bell yn y Porth a’r Court House yn Llwynypia, byddai'r ffigurau diweithdra yn y Rhondda yn llawer uwch. Sut y bydd y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn adeiladu ar y llwyddiant yr ydym yn dechrau ei weld yn y Rhondda fel nad oes angen inni adael er mwyn llwyddo?
Diolch am eich cwestiwn ac am ein hatgoffa o rai o'r heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu, a bydd y diffyg o £1 biliwn o arian yn lle cronfeydd yr UE yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn y gallwn ei wneud a pha mor gyflym y gallwn wneud hynny. Wrth nodi ein cenhadaeth economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, rydym yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, felly dyna pam y byddwn yn parhau i weithio i helpu i ddod â phobl yn nes at y farchnad lafur, y bobl hynny nad ydynt yno eisoes, a gwyddom fod canlyniadau sylweddol a gwahaniaethol i bobl ag anableddau, fel y nododd Joyce Watson yn gynharach, a chyfraddau gweithgarwch economaidd mewn cymunedau fel y rhai y mae’r Aelod yn eu cynrychioli hefyd. Felly, rwy'n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth, ond yr hyn sy'n rhwystredig i mi yw y gallem wneud cymaint mwy pe bai Llywodraeth y DU ar ein hochr. Yn ystod y tymor hwn, rwy'n gobeithio y gwelwn newid yn hynny o beth ar ran y DU, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod stori well gan y Rhondda a chymunedau tebyg eraill i’w hadrodd ac i sicrhau y gallwn fod yn llwyddiannus ac na fydd angen ichi adael er mwyn llwyddo.