Iechyd a Lles yn y Gweithle

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:04, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n un o lysgenhadon balch yr ymgyrch iechyd meddwl 'Where's Your Head At?', ac mae'r ymgyrch wedi arwain at Fil sy'n mynd drwy Senedd y DU i sicrhau bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn cael ei ymgorffori mewn hyfforddiant cymorth cyntaf, ac i gydnabod bod ochr gorfforol a meddyliol hyfforddiant cymorth cyntaf yn gyfartal. Rwy'n meddwl tybed beth a wnewch yn y strategaethau a gyhoeddwyd gennych i sicrhau bod gennym swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob busnes ledled Cymru, ac onid ydych yn cytuno â mi ei bod yn bwysig inni gael hyrwyddwyr yn y gweithle i ofalu am anghenion pobl â salwch meddwl ?