1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yn ardal Mersi a Dyfrdwy? OQ57825
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gefnogi’r rhanbarth drwy ein fframwaith economaidd rhanbarthol a’n dull datblygu economaidd sy'n seiliedig ar leoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn un o sylfaenwyr Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, fel y gŵyr yr Aelod, ac mae hon yn bartneriaeth o sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi’r ardal economaidd weithredol drawsffiniol rhwng gogledd ddwyrain Cymru, gorllewin Swydd Gaer a Wirral.
Wel, a gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ateb i fy nghwestiwn ac am ei gefnogaeth ddiwyro i gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025? Mae cefnogaeth y Gweinidog wedi’i nodi ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae wedi bod yn hynod werthfawr gallu brolio yn ei chylch wrth ymgeiswyr eraill, ac yn amlwg, wrth yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac wrth y bwrdd. Mewn ysbryd o undod gyda’n cefndryd gogleddol, sydd hefyd wedi cefnogi’r cais, a wnewch chi ymuno â Meiri Rotherham a Burnham i alw am symud rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr o Wembley i’r gogledd? Ac a allech chi amlinellu sut y mae trafodaethau gyda’n partneriaid ar draws ardal Mersi a’r Ddyfrdwy yn mynd rhagddynt, gyda golwg ar greu mwy o swyddi o ansawdd uchel ar draws y rhanbarth?
Iawn. Ar y ddau bwynt cyntaf, ydw, rwy’n falch iawn o barhau â fy nghefnogaeth ddatganedig i gais Wrecsam i fod yn Brifddinas Diwylliant y DU. Gwn fod yr Aelod, a chyn-gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn wir, yr Aelod etholaethol dros Wrecsam, wedi datgan eu cefnogaeth i’r cais yn glir iawn hefyd, fel y mae pobl ar draws y rhanbarth a thu hwnt wedi'i wneud, yn wir. Mae iddo gefnogaeth drawsbleidiol.
A chredaf hefyd y byddai'n gam synhwyrol iawn i sicrhau nad yw cefnogwyr Manchester City a Lerpwl yn teithio i Lundain ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr, ac y byddai manteision ehangach i hynny hefyd.
Ac ar ddatblygiadau yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae fy swyddogion yn parhau i weithio’n uniongyrchol gyda’r siroedd ar ddwy ochr y ffin i geisio deall sut i sicrhau'r budd mwyaf o gyfleoedd sydd eisoes yn bodoli mewn ystod o sectorau, o ynni gwynt ar y môr i ynni niwclear i ynni'r môr, ac wrth gwrs, amrywiaeth o faterion cyflenwi trawsffiniol. Felly, rwy’n obeithiol iawn ynghylch cryfder y bartneriaeth sy’n bodoli, ac ynghylch cydnabyddiaeth y bydd buddsoddiad yn y rhan hon o’r DU, boed ar ochr Cymru i’r ffin neu’r ochr arall, yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol. Felly, byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau pwrpasol hynny a fydd hefyd, rwy'n gobeithio, yn gynhyrchiol.
Yn ogystal â gwaith adnewyddu signalau a gefnogir gan Lywodraeth y DU ar brif reilffordd gogledd Cymru a thros £1.2 biliwn o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer dinas-ranbarth Lerpwl, sydd o fudd i wasanaethau rheilffordd ac economïau a thrafnidiaeth rhwng dinasoedd yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Cymru, mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy wedi derbyn £59 miliwn yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys £2.6 miliwn ar gyfer rheilffordd Wrecsam-Bidston-Lerpwl, a £400,000 i ddatblygu cynigion ar gyfer gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ymhellach. Mae mynediad di-risiau yng ngorsaf y Fflint hefyd yn cael ei ddatblygu. Mae Network Rail yn bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu gwelliannau i amseroedd teithio ar brif reilffordd gogledd Cymru i lefel y cam achos busnes amlinellol erbyn haf 2022, ac ar ôl hynny bydd ffrwd gwelliannau'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gofyn am benderfyniad dylunio. A bydd £42.5 miliwn o arian datblygu ar gyfer yr adolygiad o gysylltedd yr undeb, a gynhaliwyd ar gyfer Llywodraeth y DU, ac a oedd yn cydnabod bod gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn economi drawsffiniol integredig iawn a fydd yn elwa o raglen o welliannau trafnidiaeth, yn cael ei ddyrannu’n fuan. Sut, felly, y byddwch chi a’ch swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r budd economaidd mwyaf posibl yn sgil hyn i ardal Mersi a’r Ddyfrdwy?
Wel, hoffem allu gwneud yn union hynny. Er mwyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae angen nid yn unig lefel o onestrwydd ond lefel o allu ymarferol i gydweithio, ac ni all hynny fod ar y sail fod Llywodraeth y DU yn penderfynu beth sy'n mynd i ddigwydd ac yna'n mynnu bod Llywodraeth Cymru'n ufuddhau. Nawr, yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, mae gennych awdurdodau lleol ar y ddwy ochr i'r ffin sy’n cael y sgwrs gynhyrchiol honno, ac eto’n cynnwys arweinwyr o wahanol bleidiau gwleidyddol, felly mae’n ymwneud â chydnabod y budd ehangach i'r ardal.
Ond mewn gwirionedd, mae ystod o'r meysydd y sonioch chi amdanynt yn eich datganiad a'ch cwestiwn yn dod o gyfrifoldebau a gedwir yn ôl. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ac wrth gwrs, gall y buddsoddiad hwnnw ddarparu budd economaidd ychwanegol sylweddol. Ac wrth gwrs, yn yr adolygiad o gysylltedd yr undeb y sonioch chi amdano, un o'r pethau y tynnodd sylw ato, fel yn wir y mae cadeirydd Ceidwadol y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi'i wneud, yw bod HS2 yn mynd i fod yn broblem i economi Cymru. Dylid ei ystyried yn brosiect Lloegr yn unig, nid prosiect Cymru a Lloegr, a byddai hynny'n caniatáu inni gael buddsoddiad ychwanegol sylweddol mewn cysylltedd a seilwaith trafnidiaeth yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ymuno â phobl eraill ar draws y Siambr i alw ar Lywodraeth y DU i newid ei meddwl ynglŷn â'r ffordd y mae prosiect HS2 wedi'i gategoreiddio, oherwydd ar hyn o bryd bydd Cymru ar ei cholled.