Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 23 Mawrth 2022.
Fel y gŵyr yr Aelod, mae Llywodraeth y DU wedi diystyru Llywodraeth Cymru a'r Senedd gyda'r ffordd y mae'r gronfa hon wedi gweithredu yn ei chyfnod treialu. Nid yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus ledled y DU fel y mae wedi'i ffurfio ar hyn o bryd. Rwy'n dal i gael trafodaethau gyda phartneriaid—nid Gweinidogion y Llywodraeth yn unig, ond y tu allan i Lywodraeth Cymru—ar y ffordd orau o liniaru'r aflonyddwch a cholli cyllid cyffredinol yn sylweddol, sy'n cynnwys, wrth gwrs, yr £1 biliwn o golled y byddwn yn ei hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.