Part of Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae fy swyddogion a minnau'n ystyried y dyfarniad, gan gynnwys safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag apêl bosibl o ddyfarniad yr Uchel Lys. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r straen a'r ansicrwydd y mae cwsmeriaid y parc ynni wedi'u profi. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon perthnasol i geisio sicrhau ateb sy'n diogelu'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a swyddi. Wrth gwrs, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar y mater ddoe ar ôl cais Mike Hedges mewn cwestiynau i'r Trefnydd.